Hanes

Bu dechrau’r achos mewn adeilad yn Nhafarn yr Aradr (Plough Inn) yma yn y pentref yn 1825. Yna symudwyd i gynnal oedfaon mewn ysgubor yn y Backway, sef Heol Gwallter erbyn heddiw. Codwyd y capel cyntaf yn y man presennol oedd ar dir fferm Glansawdde yn 1840. Ailadeiladwyd ac ehangwyd y capel gwreiddiol yn 1883 gan y Parchg Thomas Thomas, West Cross, Abertawe, i gynnwys y festri a thŷ capel sydd ynghlwm wrth adeilad y capel. Mae’r capel yn esiampl o un o’r capeli olaf Cymraeg a gynlluniwyd gan y pensaer blaenllaw nodedig hwn. Rhestrwyd y capel ynghyd â’r adeiladau eraill a nodwyd gan Cadw ar Raddfa 2.

Y gweinidog rhan-amser presennol yw’r Parchg Catrin Ann sydd â gofal am Ofalaeth Providence a Bethlehem, Dyffryn Ceidrych. Nifer yr aelodau yma yn Providence ar hyn o bryd yw 107 aelod, er mae nifer yr aelodau sy’n mynychu oedfaon yn rheolaidd yma wedi gostwng i rhwng 17–20 aelod yn dilyn y pandemig Covid.

Cyfeiriad y capel yw Heol Dyrfal, Llangadog, Sir Gaerfyrddin SA19 9BR.

Gweithgareddau

Cynhelir yr ysgol Sul yma o hyd er bod nifer y plant sydd yn ei mynychu wedi gostwng cryn dipyn dros y blynyddoedd diwethaf yma. Plant o 4 i 8 mlwydd oed sydd yn ei mynychu nawr. Rydym yn dal i gynnal arholiad yr ysgol Sul, sef Hwyl y Gair yn flynyddol yma yn Nyffryn Tywi a threfnir trip blynyddol i’r plant i lan y môr yn yr haf. Cynhelir oedfaon gan y plant adeg ein cyrddau blynyddol a’r Nadolig a threfnir gwasanaeth dechrau’r flwyddyn pan gymerir rhan gan ieuenctid y capel trwy ddarllen darnau o’r ysgrythur, gweddau, a chyflwyno’r emynau a genir gan y gynulleidfa. Cynhelir oedfa arbennig a chymun hefyd ar fore dydd Nadolig.

Cynhelir cyfarfodydd o’r gymdeithas ddiwylliadol yn fisol yn ystod tymor y gaeaf gan yr aelodau ffyddlonaf, a threfnir eisteddfod fach ar gyfer y plant yn unig erbyn hyn ar adeg Gŵyl Ddewi. Bu Eisteddfod y Capeli yn llewyrchus iawn ar un adeg pan gymerwyd rhan hefyd gan yr oedolion.

Elusennau

Ymhlith yr elusennau a gefnogir gan yr aelodau trwy gyfraniadau ariannol mae’r rhai canlynol: Y Beibl Gymdeithas, y Genhadaeth, Cymorth Cristnogol, cyfeillion ysbyty leol Llanymddyfri, a rhoddir cyfraniad o fwyd at y banc bwyd yn Llandeilo, ar ôl cynnal ein gwasanaeth diolchgarwch yn yr hydref.

 

D. Wyn Williams

Ysgrifennydd

Dolenni Defnyddiol

Y Newyddion Diweddaraf

Derbyniwch y newyddion, fideos ac adnoddau diweddaraf.