Lleolir Salem ynghanol pentref bach Llanbedr-y-cennin yn Nyffryn Conwy. Rydym yn eglwys o 30 o aelodau o bob oed, ac er mai dim ond tua 7 sydd yn mynychu’r oedfaon wythnosol yn rheolaidd, pan fydd gwasanaeth teuluol, mae’r nifer sy’n mynychu yn fwy, a cheir tua 65% o’n haelodau’n bresennol, yn ogystal â chyfeillion nad ydynt yn aelodau, megis rhai o rieni a theuluoedd y plant sydd yn mynychu clwb plant yr eglwys. Cawn baned a chyfle i gymdeithasu wedi’r addoliad, gyda phob teulu yn cymryd eu tro i baratoi hyn. A braf yw’r achlysuron fel hyn, pan fydd y teulu i gyd yn dod ynghyd.
Hyfryd oedd derbyn gwahoddiad ym mis Mawrth 2020 i ymuno â Gofalaeth Bro Newydd Nant Conwy, gan alw’r Parchedig Owain Idwal Davies atom yn weinidog, a braint o’r mwyaf i Salem oedd cael cartrefu ei gyfarfod ordeinio ym mis Mehefin 2021, gan groesawu Owain a’r teulu i Salem, er nad ydynt yn ddieithr inni o gwbl. Mae’r cyswllt wedi bod ers blynyddoedd bellach, gyda thad Owain, y diweddar Barchedig Eryl Lloyd Davies yn weinidog ofalus drosom, a hefyd blynyddoedd o gydweithio hapus gydag eglwys y Tabernacl, Llanrwst, mam eglwys y teulu.
Mae 13 o gapeli yn yr ofalaeth newydd, a golyga hyn, yn enwedig mewn ardal wledig, dipyn o her o ran trefnu oedfaon o dan ofal y gweinidog. Er hwylustod felly mae’r ofalaeth wedi cael ei rannu yn glystyrau bach o fewn ardaloedd, gyda’r gweinidog yn cynnal oedfa fisol ymhob clwstwr gan gylchdroi lleoliad yr oedfa, gyda’r anogaeth i ni fel aelodau fynychu’r oedfa ym mha bynnag capel y cynhelir hi. Ein clwstwr ni ydy eglwysi Presbyteraidd Tal-y-bont, Ty’n-y-groes a Seion Rowen ynghyd â ninnau yn Salem. Mae’r tri chapel Presbyteraidd eisoes yn ymuno bob Sul ers tro, gan gylchdroi lleoliad yr oedfa. Rydan ninnau hefyd, ers blynyddoedd maith, wedi cydaddoli’n hapus bob mis Awst gyda’r tair eglwys, ac yn fwy aml na hynny dros y blynyddoedd diwethaf. Cafwyd anogaeth inni, wrth sefydlu’r ofalaeth newydd, i gynnal oedfa undebol yn fwy rheolaidd, a chan mai dyna hefyd cafodd ei awgrymu yn ein cyfarfod eglwysig wrth drafod ymuno â’r ofalaeth newydd cytunwyd yn y tymor byr i gydaddoli gydag eglwysi Tal-y-bont, Ty’n-y-groes a Rowen ar fwy nag un Sul; ond gan sicrhau fod dwy oedfa’r mis yn Salem, boed y rhain yn undebol neu beidio - ond gorau oll os ydynt. Bydd y trefniant yma yn ein galluogi i barhau i gynnal yr oedfaon teuluol sydd mor bwysig inni fel eglwys.
Yn 2022 bydd adeilad presennol Salem yn 150 oed, mae hyn yn achos dathlu, ynghyd â chael bugail newydd arnom; ac wrth adolygu trefniadau Suliau ar derfyn 2021, dymuniad yr aelodau ar gyfer edrych i’r dyfodol a’r hirdymor ydy gofyn i aelodau eglwysi Tal-y-bont, Ty’n-y-groes a Rowen ystyried cyfarfod i drafod uno’r pedwar eglwys a chreu un Eglwys Unedig Gymraeg ym Mro Caerhun. Yn 2022, dyma fydd hanes y ddarpariaeth ar gyfer plant ac ieuenctid gyda chychwyn Clwb Ieuenctid Cristnogol ac ysgol Sul Unedig Bro Caerhun, dan arweiniad y Gweinidog ac arweinyddion plant/ieuenctid y pedair eglwys – achos arall i ddathlu a chamu yn obeithiol i’r dyfodol, gan weddïo am fendith Duw ar y cyfan.