Bu pregethu gan yr Annibynwyr yn nhreflan Nefyn yn gynnar yn y 19eg ganrif gan ddechrau yn un o adeiladau’r Wern cyn symud i dŷ Griffith Williams yn y Fron.
Bu William Davies, gweinidog Peniel, Ceidio o gymorth mawr i Annibynwyr Nefyn a sicrhaodd ddarn o dir at yr achos ar gwr y dre. Agorodd Soar ym 1829 ac addaswyd yr adeilad gan ychwanegu dau dŷ drws nesa ym 1880. Mae un tŷ yn parhau’n rhan o safle Soar.
Erbyn heddiw gydag 40 o aelodau a thua dwsin i 15 o ffyddloniaid yn mynychu oedfa, mae’r capel ei hun rhy fawr ac ni ddefnyddir yn y gaeaf. Gwneir defnydd o festri sy’n ddiddos ble mae cegin bwrpasol, llwyfan, yn ogystal ag ystafell fach, gyfforddus.
Ond er problemau cynnal hen adeiladau, nid adeilad ond pobl sy’n creu eglwys. Rydym yn ffodus o gael gwasanaeth rhan amser ein gweinidog sef y Parchg Glenys Jones B.Ed., MA wedi sawl blwyddyn heb fugail ar ôl colli’r diweddar, annwyl Hedley Gibbard.
Bydd y gweinidog efo ni unwaith y mis ac rydym erbyn hyn yn cydaddoli efo cynulleidfa eglwys y Methodistiaid sef Capel Isa, Nefyn (sydd heb weinidog oherwydd ymddeoliad) ar Suliau pan fydd yna weinidog gwadd. Hefyd, rydym yn ceisio paratoi sesiynau addoli ein hunain yn un criw cyfeillgar ac rydym yn medru galw ar fwy nag un i gyfeilio - defnyddiol iawn!
Seren y Mis
Cyflwynodd ein gweinidog gyfarfod misol o’r enw Seren y Mis ar fore Mawrth – cyfarfod i’r ddau gapel sy’n agored i bawb. Cawn weddi, munud i feddwl a gweddïo dros rai sy mewn argyfwng yn ein treflan ac yn bellach. Ceir cyfle hefyd i fynegi barn am ddarlleniad, ymadrodd o’r Beibl neu emyn.
Ar hyd y blynyddoedd bu criw ymroddgar yn gweithio yn yr ysgol Sul gan gyflwyno gwasanaeth Diolchgarwch, drama Nadolig a gwasanaeth pan oedd teuluoedd cyfan yn cymryd rhan. Yn achlysurol, bydd y gynulleidfa’n ymuno efo’r ysgol Sul ar gyfer sesiwn dan ofal un o’r aelodau neu rywun o’r dreflan – sesiynau hapus yw’r rhain a’r oedolion yn ymuno’n ymarferol! Braf cael dweud bod yr ysgol Sul wedi ailddechrau wedi cyfnod y clo a da gweld hynny.
Yn ystod y clo bu’r aelodau yn cadw mewn cysylltiad dros y ffôn a nifer ohonom yn ymuno mewn gwasanaethau dros Zoom o wahanol gapeli.
Ysgol Sul
Cynhelir yr ysgol Sul bob bore Sul ac amser gwasanaethau’n amrywio yn ôl argaeledd gweinidogion ond hysbysir am fanylion y trefniadau y tu allan i’r adeilad. Braf cael cymdeithasu dros banad wedi oedfa am fod nifer o’r ffyddloniaid yn byw eu hunain. Mae hyn diolch i haelioni teulu Owen, Tŷ Capel sy’n gwarchod y capel a Mr Owen ein hunig flaenor.
Mewn byd ansefydlog rhaid diolch am angor ein ffydd a chyrchfan i rannu a chenhadu ein ffydd.