Credwn fod ein heglwysi mewn sefyllfa gref i gynnig cefnogaeth i bobl sy’n byw gyda dementia.
Yn anffodus, nid yw anghenion ysbrydol llawer iawn o bobl sy’n byw gyda dementia yn cael eu diwallu ar hyn o bryd. Dylem sicrhau nad yw’r cyflwr yn rhwystr i bobl fedru mynychu addoliad, a’n braint ni yw cael eu croesawu drwy lunio oedfaon arbennig ar eu cyfer.
Rydym yn gymdeithas ofalgar, a gall ein hoedfaon fod yn gysur fel man cyfarwydd a chynnes i rai sydd â brith gof am ganu emynau a chlywed adnodau. Mae gennym hefyd adnoddau a chyfleusterau a fedrai fod o gymorth mawr fel man cyfarfod diogel i gynnal gweithgareddau amrywiol megis awr grefftau, caffi cof, sesiwn gerddorol neu chwarae gemau.
Dyma pam ein bod yn arwain ymgyrch i geisio gwneud ein heglwysi i gyd yn rhai dementia-gyfeillgar. Golyga hyn addysgu ein haelodau a’n swyddogion, cynghori teuluoedd ynghylch y cymorth sydd ar gael, a chydweithio gyda mudiadau ac enwadau eraill i wneud safiad dros hawliau’r unigolion, eu gofalwyr a’u teuluoedd.
Rydym wedi cyhoeddi Llawlyfr ar ffurf ffeil wybodaeth fel rhan o’r ymgyrch, a medrwch ei ddarllen isod yn ogystal â nifer o adnoddau ychwanegol.