Mae gan Undeb yr Annibynwyr Cymraeg dri aelod staff llawn amser a thri rhan amser. O'u pencadlys yn Nhŷ John Penri, Abertawe, mae'r staff yn cefnogi a gwasanaethu eglwysi'r Undeb.
Staff a Swyddogion
Dyfrig Rees
Brodor o Gwm Gwendraeth yw’r Parchg Dyfrig Rees, a bu’n gweinidogaethu yn Llanbrynmair a Charno ym Maldwyn, yn y Tymbl a Llannon yng Nghwm Gwendraeth, ac yn Drefach, Llanelli, cyn symud i Gellimanwydd, Rhydaman a Moreia, Tŷcroes ac yna i’r Tabernacl, Pen-y-bont ar Ogwr. Etholwyd ef i’w swydd bresennol yn 2018 a dechreuodd ar ei waith ar ddechrau Medi’r flwyddyn honno. Y mae’n briod â Mandy ac y mae ganddynt ddau fab, Rheinallt a Rhodri. Y mae Dyfrig yn aelod o eglwys y Tabernacl, Pen-y-bont ar Ogwr.
Cyfrifoldeb yr Ysgrifennydd Cyffredinol yw cynnig arweiniad, ysgogi gweithgarwch a hyrwyddo holl bolisïau’r Undeb gan gynnwys y rhai sy’n ymwneud â’r genhadaeth. Mae hefyd yn cynnig gofal bugeiliol i’r Cyfundebau, yr eglwysi a’r gweinidogion. Mae’n cynrychioli’r Undeb yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, ac yn cadw mewn cysylltiad cyson â’i gyd-swyddogion cyfatebol mewn enwadau eraill.
Rhodri Darcy
Daeth Rhodri Darcy, Rhydaman, yn Swyddog Hyrwyddo a Chyfathrebu yr Undeb ym mis Ionawr 2016. Hyd hynny, treuliodd y rhan helaethaf o’i yrfa yn y diwydiant darlledu, a bu’n cyflwyno a chynhyrchu rhaglenni yn Gymraeg a Saesneg.
Ei gyfrifoldebau yw hyrwyddo cymdeithasau a rhwydweithiau’r Undeb, datblygu ein dulliau cyfathrebu a chynhyrchu deunydd fideo a sain yn ôl y galw.
Mae’n aelod o Eglwys Efengylaidd, Rhydaman.
Carwyn Siddall
Y Parchg Carwyn Siddall, Llanuwchllyn yw Cydlynydd Hyrwyddo Gweinidogaethau yr Undeb. Swydd rhan amser yw hon iddo gan ei fod yn parhau â gofal ei eglwysi ym Mhenllyn, Meirionnydd. Y mae Carwyn yn berson adnabyddus iawn yn ein plith, yn weinidog egnïol a chydwybodol ac yn un parod ei gymwynas i’r Undeb, wedi gwasanaethu fel swyddog Adran Tystiolaeth ac Adran Eglwysi a’u Gweinidogaeth ac ar y Pwyllgor Gweinyddol.
Meinir Williams
Meinir Williams yw Swyddog Gweinyddol rhan-amser yr Undeb.
Daw Meinir yn wreiddiol o Hirwaun, Aberdâr a’i magu yn un o blant eglwys Siloa. Ers blynyddoedd bellach bu’n byw yn y Tymbl Uchaf ac mae’n aelod yn eglwys Bethania yno.
Cafodd Meinir yrfa lwyddiannus fel athrawes ysgol, yn fwyaf diweddar yn ysgol gynradd Gymraeg Dewi Sant, Llanelli.
Elinor Wyn Reynolds
Ymunodd Elinor Wyn Reynolds â staff yr Undeb ym mis Mai 2017. Yn awdur, bardd a golygydd, daeth â llu o ddoniau i’w cyfrannu at weithgarwch yr Undeb.
Ei phrif gyfrifoldebau yw paratoi Y Blwyddiadur, Dyma’r Undeb ac amrywiol gyhoeddiadau achlysurol eraill yr Undeb (ac eithrio’r adroddiadau blynyddol). Mae hefyd yn cynorthwyo’r Ysgrifennydd Cyffredinol i gydlynu yr amrywiol elfennau o weithgarwch yr Undeb.
Mae’n aelod o Eglwys y Priordy, Caerfyrddin.
Alun Lenny
Bu Alun Lenny yn ohebydd newyddion o 1974-2007 ar y Carmarthen Journal, y BBC a Newyddion S4C. Treuliodd 25 mlynedd gyda’r BBC yng Nghaerfyrddin, gan ohebu ar straeon ledled Gorllewin a Chanolbarth Cymru, ac mewn gwledydd eraill o bryd i’w gilydd. Bu’n bregethwr cynorthwyol ers 2002, yn Gydlynydd Cenhadol Cyfundeb Gorllewin Caerfyrddin, ac yn Arweinydd eglwys Annibynnol Bwlch-y-corn. Mae’n aelod o gynghorau Sir a Thref Caerfyrddin.
Jeff Williams
Y Parchg. Jeff Williams, Aberhonddu yw Llywydd newydd yr Undeb.
Gwnaeth gyfraniad sylweddol yn ein plith fel gweinidog, fel swyddog adran ac aelod o’r Cyngor a’r Pwyllgor Gweinyddol. Yn sgil ei waith gyda Chymorth Cristnogol, tyfodd yn arweinydd cadarn a diogel ei gyfarwyddyd ar faterion cymdeithasol.
Beti-Wyn James
Daw Beti-Wyn James o Gwm Tawe a bu ar staff yr Undeb am gyfnod cyn graddio yng Ngholeg yr Annibynwyr Cymraeg, Aberystwyth, ei hordeinio’n weinidog yn y Tabernacl, Y Barri, ym 1994 a symud i Ofalaeth Y Priordy, Cana a Bancyfelin yn 2002. Yn weithgar a brwdfrydig yng ngweithgarwch yr Undeb a’r Cyfundebau y mae wedi perthyn iddynt, mae bod yn Gadeirydd Ysgol Haf Gweinidogion yr Annibynwyr ymhlith ei chyfrifoldebau presennol. Mae’n awdur ac yn llais cyfarwydd ar y cyfryngau ond, yn anad dim arall, yn weinidog i’r Arglwydd Iesu Grist.
Owain Llŷr Evans
Fe’m magwyd i yn dipyn o bob man; ond yng Nghlunderwen, Sir Benfro mae’r stori’n dechrau lle’r oedd fy nhad, y Parchedig Byron Evans, yn weinidog yng nghapel y Bedyddwyr Blaenconin; bu mam, Anne, yn rhan annatod o weinidogaeth fy nhad ar hyd y blynyddoedd. Symud wedyn, a finnau’n dair blwydd oed i Lanybydder, i gapel Aberduar. Symud eto i Gasllwchwr, ac ymgartrefu yng nghapel Penuel. Symudais eto fyth wedyn o Gymru i Lundain, ac o Lundain i Swindon. Yng nghapel y Bedyddwyr, Castle Street, Llundain, y bedyddiwyd fi ac yno daeth yr alwad i’r weinidogaeth Gristnogol.
Rwy’n weinidog gydag Eglwys Anninbynnol Minny Street Caerdydd ers ugain mlynedd.
Yng Nghyngor ein Hundeb, rwy’n gadeirydd Adran yr Eglwysi a’u Gweinidogaeth, yn aelod o’r Pwyllgor Gweinyddol, a bellach yn ddarpar-lywydd.
Geilw ein cyfnod am fynegiant bywiog, disgybledig a deallus o’n ffydd, fel y sicrheir tystiolaeth onest, ddi-ofn, oleuedig i ryfeddod dilyn Iesu Grist yn ei gwmpas lletaf a’i ystyr ddyfnaf. Fel darpar-lywydd fy ngwir ddymuniad yw cydweithio’n fentrus obeithiol i wireddu hyn.
Dafydd Roberts
Etholwyd Mr Dafydd Roberts yn Gadeirydd y Cyngor yn 2017. Yn enedigol o Drefor yng Ngwynedd, gwasanaethodd yr eglwysi yn ei ardal fel Pregethwr Cynorthwyol a bu’n aelod ffyddlon ac yn gyfanwr cyson i weithgareddau’r Cwrdd Chwarter yn Llŷn ac Eifionydd. Ef bellach yw Cadeirydd y Cyfundeb. Ym myd yswyriant y mae Dafydd yn gweithio. Mae’n aelod ac yn ddiacon yn eglwys Maesyneuadd yn Nhrefor, ac wedi bod yn gefnogwr selog i’r Undeb ar hyd y blynyddoedd.
Geraint Rees
Etholwyd Geraint yn Drysorydd yr Undeb yn 2023. Magwyd ef yn Efail Isaf, ac yn y Tabernacl, capel y pentref. Bu’n athro a phrifathro, ac yn gynghorydd proffesiynol i’r gweinidog addysg wedi cyfnodau yn llywio adrannau addysg mewn awdurdodau lleol. Mae’n aelod o’r tim eang o wirfoddolwyr sy’n cynnal y Tabernacl.
Y Newyddion Diweddaraf
Derbyniwch y newyddion, fideos ac adnoddau diweddaraf.