Y traddodiad Annibynnol
Mae’r Annibynwyr yn perthyn i eglwysi’r traddodiad Diwygiedig, yn ffrwyth diwygiad ac yn agored i gael eu diwygio’n gyson ac yn barhaus.
Cydnabyddir Duw yn y Drindod Sanctaidd sef; Duw, y Tad, sy’n cael ei ddangos yn Iesu o Nasareth, Duw’r Mab ac sy’n fythol bresennol yn ei Ysbryd, Duw yr Ysbryd Glân.
Tystia’r Beibl i weithredoedd mawr Duw yn hanes Israel, ym mherson Iesu Grist ac yng ngweithgaredd yr Ysbryd a than weinidogaeth yr Ysbryd daw’n Air y Bywyd i Gristnogion pob oes.
Y mae’r Annibynwyr yn arddel dwy sacrament: Bedydd (babanod a chredinwyr), ynghyd â Swper yr Arglwydd drwy’r Cymun.
Trefn eglwysig
I Annibynwyr, mae’r cwmni lleol ddaw ynghyd yn enw Iesu yn eglwys gyflawn. Cymuned yw hi, â’i haelodau, drwy gyfamodi â’i gilydd, yn datgan eu parodrwydd i gyd-fyw ac hyrwyddo bywyd y Deyrnas yng ngoleuni’r Beibl ac yn nerth yr Ysbryd Glân.
Gan mai Crist yw ei phen y mae’r eglwys yn rhydd i addoli a gwasanaethu yn unol â’i dealltwriaeth o Air ac ewyllys yr Arglwydd, heb fod yn atebol i unrhyw gorff neu berson arall.
Y Cyfarfod Eglwysig yw ei chorff llywodraethol pan ddaw’r aelodau ynghyd gyda’r bwriad o geisio, yn weddigar, feddwl Crist fel y caiff ei amlygu trwy’r Beibl a’r Ysbryd.