Gwaith Y Cyngor

Mae'r Cyngor yn cyfarfod ddwy waith y flwyddyn yn Aberystwyth i drafod gwaith y Cyngor a'i adrannau.  

Aelodau’r Cyngor yw dau gynrychiolydd o bob Cyfundeb (cyfanswm o 30), swyddogion a staff yr Undeb (hyd at 10),  swyddogion y pedair Adran (hyd at 8) a rhai wedi’u hethol gan y Gynhadledd (hyd at 6).  Mae hyn yn golygu bod hyd at 55 o bobl yn gallu mynychu’r Cyngor.

P1377289.JPG
Cenhadaeth a'r Eglwys Fyd-Eang

Owain Davies

Owain Davies sy'n arwain yr adran Genhadaeth a’r Eglwys Fyd-Eang .  Mae'r adran yn gweithio â phartneriaid fel CWM (Cyngor y Genhadaeth Fyd-Eang) ynghyd â gwaith ecumenaidd yng Nghymru. 

P1377304.JPG
Yr Eglwysi a'u Gweinidogaeth

Owain Llŷr Evans

Mae Owain Llŷr Evans yn weinidog ar eglwys Minny Street yng Nghaerdydd ac yn arwain adran yr Eglwysi a’u Gweinidogaeth.  Mae eu gwaith yn cynnwys datblygu ac annog arweinwyr o fewn eglwysi, bugeilio, diogelu a gwaith y Cyngor Ysgolion Sul.

Dyma'r drafodaeth a fu yng Nghyngor y Gwanwyn 2025:

Wedi cyflawni gofynion cychwynnol ein hagenda cafwyd adroddiad cryno, ond manwl a chywir o waith y Panel Diogelu Cydenwadol gan y Parchedig Jill-Hailey Harries. Mawr ein diolch am waith trylwyr a dygn y panel hwn. Arweiniodd hyn at adroddiad y Parchedig Carwyn Siddall am faterion hyfforddi. Llongyfarchwyd ef am ei waith. Cafwyd trafodaeth frwd am yr angen i ddiweddaru’r Cynllun Arweinyddion. Penderfynwyd gwneud dogfen 2013/14 yn fan cychwyn i ffurfio dogfen newydd, gyfoes. Bydd panel yn ymgynnull yn brydlon i fynd i’r afael â’r gwaith.

Aethpwyd ymlaen i drafod cod ymddygiad i weinidogion. Bu’r drafodaeth yn gryno a disgybledig gan mor gymhleth y mater a’r gofynion. Bydd y mater hwn yn cael ei drosglwyddo i’r Pwyllgor Gweinyddol am gyngor pellach. 

Nesaf, bu trafodaeth ar batrymau a modelau gweinidogaeth yn benodol felly, sut y gellid ystwytho’r diffiniad o natur y weinidogaeth a hynny’n arwain at ambell sylw parthed adolygu a gwirio cynnwys tudalennau 104 a 113 yn y Blwyddlyfr. Cyfarfod da a gafwyd. Mawr ddiolch i aelodau’r adran am bob ymroddiad, ac i’r Parchedig Casi Jones am gofnodi.

 

Euron Hughes.jpg
Tystiolaeth

Tystiolaeth

Yn rhinwedd ei waith fel Cadeirydd yr adran Dystiolaeth, mae Euron yn arwain trafodaethau am efengylu, yn ddigidol a wyneb yn wyneb, gan gynnwys cyfleuon ar Faes y Sioe Frenhinol a'r Eisteddfod Genedlaethol.

Dyma'r drafodaeth a fu yng Nghyngor y Gwanwyn 2025:

Gwaith Ieuenctid

Cafwyd trafodaeth gyfoethog iawn dan arweiniad y cadeirydd Parchg Euron Hughes yn yr adran Dystiolaeth yn dilyn adborth o'r holiaduron a anfonwyd i'r cyfundebau parthed gwaith ieuenctid a phlant. Cafwyd ymateb gonest ac agored gan eglwysi, cyfundebau a phobl ifanc oedd yn rhoi blas a throsolwg ar waith ieuenctid a phlant ar hyd a lled y wlad. Daeth yr adran i’r casgliad bod darpariaeth gwaith plant ac ieuenctid yn amrywio yn fawr rhwng eglwysi a chyfundebau ond cafwyd ymateb oedd yn sôn am rai o bryderon pobl ifanc ein heglwysi sydd yn cynnwys; ysgol, pwysau gwaith, arholiadau, tyfu lan a newid hinsawdd ond i enwi ychydig.

Daeth yr adran i'r casgliad fod y darlun yn anghyflawn gyda nifer o gwestiynau dal heb eu hateb. Cafwyd trafodaeth galonogol gydag egni a gweledigaeth yn dilyn yr adroddiad a daeth yr adran i benderfyniad i weithredu a thrafod y canlynol;

  • Cyfarfod i drafod ymhellach gwaith ieuenctid ac i fynd ati i greu strategaeth
  • Edrych ar sefydlu cronfa ariannol i helpu gyda gwaith ieuenctid, plant a chymuned yn benodol.
  • Creu ymgyrch blwyddyn yn debyg i 'Blwyddyn y Beibl Byw' gyda'r ffocws ar waith ieuenctid ac ysbrydolrwydd gan annog a chefnogi eglwysi i weddïo dros waith ieuenctid yn lleol a chenedlaethol.
  • Ymgysylltu a phartneriaid yn eglwysi ac yn eciwmenaidd sydd yn gwneud gwaith ieuenctid yn barod gan annog cyd-weithio. Soniwyd am 100 i Gymru a'r ffordd gallem ymgysylltu a'r eglwysi newydd.

Cenhadaeth ddigidol

Cafwyd adroddiad gan Elinor ar ein cenhadaeth ddigidol. Nodwyd bod cynllun MSP4 yn dod i ben a welodd dwy flynedd o’r podlediad Y Cwmni Bach. Er bydd Y Cwmni Bach yn dod i ben, mae’r podlediadau’n esblygu ac mae sawl peth cyffrous ar y gweill.

Criw cynnwys

Cafwyd cais gan Elinor a Rhodri am ‘griw cynnwys’, sef grŵp o ryw 3-4 person sydd yn barod i chwilio am frawddegau defosiynol, byr ar gyfer eu rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol yn ddyddiol. Bydd y deunydd hwn ar gael ar gyfer eglwysi yn ogystal.

Gofynnwyd hefyd i’r Undeb ystyried a oes angen gweithiwr ychwanegol yn Nhŷ John Penri i helpu gyda’r gwaith digidol.

 

P1377294.JPG
Dinasyddiaeth Gristnogol

Robin Samuel

Ymhlith gorchwylion yr adran Dinasyddiaeth Gristnogol, mae Robin Samuel yn arwain trafodaethau ar waith yr Undeb a'i bartneriaid yn Madagascar, datblygu eglwysi 'Dementia-gyfeillgar', Cymorth Cristnogol a gweithgor 'Economi Bywyd a Newid Hinsawdd'.

Dyma'r drafodaeth a fu yng Nghyngor y Gwanwyn 2025:

 

ARocha (www.arocha.org.uk)

Mae’r Pwyllgor Gweinyddol wedi argymell bod yr Undeb yn ariannu gwaith ARocha yng Nghymru am gyfnod o 3 blynedd (£10,000 y flwyddyn)

Cyflwynodd Delyth Higgins, Swyddog Eco-eglwysi ARocha yng Nghymru, fanylion am y cynllun EcoChurch – rhaglen i gynorthwyo eglwysi i ymestyn eu gofal dros y greadigaeth.

Mae ARocha wedi gosod nod o gyrraedd 20, 000 o eglwysi (Cymru a Lloegr) erbyn 2030.

Bydd y Cyfarfod Blynyddol eleni yn ystyried cais i gefnogi gwaith ARocha ac i annog eglwysi i gofrestru fel eglwysi Eco. Beth am arddel yr enw EcoEglwys yng Nghymru?

  • CYTÛN / Grŵp Laser Cytûn

Cyflwynodd Emyr Gwyn Evans, cynrychiolydd yr adran ar Grŵp Laser Cytûn, flas o’r dogfennau polisi diweddaraf.

  • Dyfodol dysgu’r Dyniaethau (astudiaethau crefydd) yng Nghymru
  • Oblygiadau Treth Twristiaeth ar eiddo elusennau
  • Deddfwriaeth ‘Cymorth i Farw’
  • Gwariant ar Gymorth Tramor
  • Eglwysi Dementia-gyfeillgar

Bydd adolygiad o gynnwys y wefan ymhen 12 mis.

  • Gweithgor Economi Bywyd a Newid Hinsawdd

Mae cyfres o bump fideo yn cael eu paratoi ar y themâu: Dillad / Bwyd / Teithio / Ynni / Gofal, i’w lansio yn ystod Eisteddfod yr Urdd eleni.

  • Cymorth Cristnogol: Apêl Ffynhonnau Byw 2023/24

Trosglwyddwyd swm terfynol o £71,099.08 i Gymorth Cristnogol.

  • Cymorth Cristnogol : Faith Will

Ymgyrch eciwmenaidd newydd i annog aelodau o’r eglwys i adael rhodd mewn ewyllys i Gymorth Cristnogol a’u heglwys leol, gan sicrhau budd i’r teulu Cristnogol yn lleol ac yn fyd-eang. 

Mae Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yn rhan o’r bartneriaeth. 

Mae dwy ffilm fer yn cael eu paratoi ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol eleni. 

  • Anghenion Hyfforddi’r Adran:

Awgrymwyd hyfforddiant gwrth -hiliaeth. 

  • Ymateb i un o bynciau llosg y dydd: Hawl i Farw

Nodwyd adroddiadau ysgrifenedig ar y mater yma.

  • Ymgysylltu ag Eglwysi – prosiect Trussell yng Nghymru: 

Trefnir cyfarfod gydag Ymgynghorydd Ymgysylltiad Eglwysig Cymru yr elusen.

Mae pob aelod yn perthyn i ddwy o’r Adrannau o fewn y Cyngor. Yr Adrannau yw: Cenhadaeth a’r Eglwys Fyd-EangDinasyddiaeth GristnogolEglwysi a’u GweinidogaethTystiolaeth Gristnogol.Y Pwyllgor Gweinyddol sy’n gyfrifol am gyllid yr Undeb, ac y mae pwyllgor arall yn gofalu am y buddsoddiadau.

Yr Adrannau

Bydd yr Adrannau yn trafod pynciau sy’n berthnasol i’w meysydd hwy ac, yn dilyn y trafodaethau, yn cyflwyno argymhellion i’r Cyngor llawn. Wedi hynny, bydd y Pwyllgor Gweinyddol a’r Cyfarfodydd Blynyddol yn derbyn adroddiadau o holl weithgareddau’r Cyngor a’i Adrannau.

Yn y Cyngor y digwydd y rhan fwyaf o’r trafodaethau manwl ar bynciau ysbrydol, cenhadol, cymdeithasol a bugeiliol yr Undeb.

Y Newyddion Diweddaraf

Derbyniwch y newyddion, fideos ac adnoddau diweddaraf.