Yn nhafarn y Tri Chwmpawd y cychwynodd eglwys Ebeneser Crwbin cyn adeiladu’r capel presennol yn 1829.

Fel llawer o eglwysi gwledig mae nifer o’r aelodau presennol yn perthyn i’r rhai fu’n aelodau yn y cyfnod cynnar, ffurfiannol hynny a dydy’r cyfenwau a’r cyfeiriadau yn yr adroddiad blynyddol heb newid llawer chwaith.

Bellach y mae Ebeneser Crwbin wedi syrthio dan 50 aelod a dim un ohonynt o dan 30 oed, ond mae gennym y cnewyllyn ffyddlon sy’n byw’n lleol ac hefyd ein haelodau sydd ar wasgar ar hyd Cymru – yn benodol yng Nghaerdydd – a Lloegr ond sy’n dal i gadw’u haelodaeth yn y fam eglwys.

Erbyn hyn nid oes gennym weinidog – ein bugail olaf oedd yr annwyl Barchedig Wilbur Lloyd Roberts. With gwrs, yn fuan ar ôl colli Wilbur daeth Covid-19 a chaewyd drysau’r capel dros dro. Pan ddaeth hi’n bryd ailagor newidiwyd y drefn o addoli a bellach rydym yn cwrdd unwaith y mis gan ddenu rhwng 12 a 15 aelod. Rydym eisoes yn rhannu gwasanaethau gydag eglwysi Pisga Bancffosfelen a Bethel Llangyndeyrn, pan fydd cyfle.

Dolenni Defnyddiol

Y Newyddion Diweddaraf

Derbyniwch y newyddion, fideos ac adnoddau diweddaraf.