Bywyd i Bawb: gwaith mawr ym Madagascar
Mae’n bleser gennym adrodd ar y prosiectau a gefnogir ym Madagascar drwy haelioni eglwysi ac unigolion Undeb Annibynwyr Cymru ar ôl yr ymgyrch wych i godi £157,000 yn 2018–19. Yn draddodiadol y mae ymgyrchoedd yr Undeb wedi cael eu goruchwylio gan Gymorth Cristnogol gan ei fod yn hanfodol fod yna rwydwaith genedlaethol a lleol i wneud yn siŵr fod yr arian a godwyd yn cael ei ddefnyddio i wireddu’r bwriadau sylfaenol yr apêl.
Y tro hwn, dewiswyd Money for Madagascar sydd â rhwydwaith eang ar yr Ynys Fawr fel ein partner. Mae Money for Madagascar yn elusen sydd â deng mlynedd ar hugain o brofiad o gefnogi a hybu prosiectau dyngarol ac amgylcheddol ar yr ynys. Ac er mai yng ngogledd Lloegr y mae ei chanolfan bellach, elusen â thras Cymreig yw MfM gan y’i sefydlwyd gan dau Grynwr o Abertawe ac mae’r cysylltiad gyda Chymdeithas y Crynwyr yn dal yn gryf o hyd. Fel ninnau, y mae hefyd ganddynt gysylltiad â FJKM, yr eglwys Bresbyteraidd fwyaf ym Madagascar ac fe gofiwn am ymweliad pennaeth yr eglwys, sef Pastor Ammi â Chyfarfodydd Blynyddol yr Undeb yn Aberaeron.
Mae effaith Covid-19 wedi bod yn un drom ar yr ynys. Nid oes cyfundrefn iechyd o unrhyw fath yn bodoli y tu allan i’r dinasoedd ac hyd yn oed yn Antananarivo, prifddinas Madagascar, y mae cymorth iechyd yn llawer rhy gostus i’r rhan fwyaf o’r dinasyddion. Er bod gan Madagascar lawer o gyfoeth naturiol y mae hi’n dal i fod yn un o’r gwledydd tlotaf yn y byd. Ond er y cyfyngiadau ar drafnidiaeth y mae ein partneriaid yn y wlad wedi gwneud gwaith arwrol i wneud yn siŵr fod y prosiectau a arianwyd gennym yn cyrraedd at y mwyaf anghennus.
Canolbwyntir ar bedwar prosiect dros gyfnod o dair blynedd. Y cyntaf ohonynt yw canolfan blant Topaza a oruchwylir gan FJKM. Y mae nawr dros gant o blant amddifad y stryd yn mynychu’r ganolfan sy’n rhoi cartref diogel iddynt yn ogystal ag addysg a hyfforddiant ac yn fwyaf pwysig, mae’n rhoi teulu iddynt. Y mae llywodraeth Madagascar yn cyfrannu’r peth nesaf i ddim at y ganolfan ac y maent felly yn dibynnu ar elusennau, eglwysi a chyfranwyr eraill er mwyn goroesi. Y mae’r cyfraniad ariannol gan yr Undeb wedi gwneud gwahaniaeth mawr iddynt yn y cyfnod diwethar lle mae bywyd wedi bod dipyn yn anoddach nag arfer.