Dyma gyfres newydd o bregethau sy'n addas i'w defnyddio os nad oes pregethwr gennych ar y Sul.

Gallwch lawrlwytho fideo o'r bregeth yn gyfan, sydd oddeutu chwarter awr o hyd.  Pwyswch ar y gair 'Vimeo' gan ddod o hyd i 'download' ar y dudalen nesaf.

Os hoffech ddarllen y bregeth eich hunan, mae copi ohoni i'w lawrlwytho yn y disgrifiad, a cheir darlleniadau yno yn ogystal.

Mae cyflwyniad PowerPoint ar gael i bob pregeth hefyd, os hoffech ei thraddodi gan ddefnyddio'r cyflwyniad eich hunan.

 

Screenshot 2025-01-14 at 12.05.52.png

Oedfa o'r ardd

Derbyniodd Gofalaeth Bro Llanuwchllyn a'r cylch nawdd gan Undeb yr Annibynwyr Cymraeg i ddatblygu llain o dir a'i droi'n ardd gymunedol, dementia gyfeillgar. Dyma oedfa arbennig gan aelodau'r eglwysi lleol o'r ardd honno.

Screenshot 2025-01-07 at 12.39.29.png

Un Duw, Cyfryngwr ac Aberth

Y Parchg Ddr Alun Tudur sy'n pregethu ar adnodau o lythyr cyntaf Paul at Timotheus, gan dynnu ein sylw at dri phennawd; Un Duw, Un Cyfryngwr, Un Aberth.

Screenshot 2024-12-03 at 12.15.57.png

Arhoswch ynof fi

Y Parchedig Owain Davies sydd yn arwain y bregeth yn seiliedig ar wahoddiad Iesu: 'Arhoswch ynof fi'. Gan ganolbwyntio ar dair elfen, mae Owain yn ein hannog i feithrin cyfeillgarwch, ymrwymiad a blaenoriaethu ein perthynas ag Iesu Grist

park-3089907_1920.jpg

Sul y Mamau

Dyma bregeth gan Y Parchedig Beti-Wyn James yn arbennig ar gyfer Sul y Mamau.

Lawrlwythwch pwerbwynt i'r bregeth isod, gan bwyso ar 'course materials'

Ceir darlleniadau fan hyn

'Salm i'r Fam' yma

Y Myfyrdod yn ysgrifenedig yma

Lawrlwytho Adnoddau

shutterstock_2140837695.jpg

Sul y Pasg

“Peidiwch bod ag ofn. Dw i'n gwybod eich bod chi'n edrych am Iesu, yr un gafodd ei groeshoelio. Dydy e ddim yma; mae wedi dod yn ôl yn fyw!''

Dathliad buddugoliaeth Sul y Pasg yng nghwmni'r Parchedig Beti-Wyn James

Lawrlwytho Adnoddau

Screenshot 2024-04-16 at 10.29.32.png

Tro Pedol

Y Parchg Rhys Locke sy'n arwain defosiwn ar yr adnodau canlynol o Efengyl Marc: “Mae’r amser wedi dod,” meddai. “Mae teyrnas Dduw wedi dod yn agos. Edifarhewch a chredwch y newyddion da!”

Lawrlwytho Adnoddau

Screenshot 2025-01-09 at 13.41.16.png

Yr Ysbryd Glan

 

Y Parchg Ddr Alun Tudur sy'n trafod yr Ysbryd Glan ac yn ystyried sut y mae'n creu, cynnal ac adnewyddu bywyd.

Lawrlwytho Adnoddau

Y Newyddion Diweddaraf

Derbyniwch y newyddion, fideos ac adnoddau diweddaraf.