Yn ystod mis Gorffennaf 2024 fe gynhaliwyd ein Cyfarfodydd Blynyddol ar gampws Prifysgol De Cymru yn Nhrefforest.

Estynnwyd gwahoddiad i'r cynadleddwyr gan Eglwysi Cyfundeb Dwyrain Morgannwg.  Dyma rai o bigion y cyfarfodydd.


Darllediad byw o gynhadledd gyntaf ein Cyfarfodydd o Gampws Prifysgol De Cymru, Trefforest. Gan gynnwys defosiwn y darpar Lywydd, Parchg Owain Llŷr Evans ac anerchiad yr Ysgrifennydd Cyffredinol, Parchg Dyfrig Rees.


Yr ail gynhadledd o Brifysgol De Cymru, Treffforest, yn cynnwys ail ddefosiwn y Parchg Owain Llŷr Evans ac adroddiad y Parchg Carwyn Siddall am waith hyfforddiant yr Undeb.


Anerchiad Susan Derber, Llywydd Ewrop, Cyngor Eglwysi'r Byd


Richard Huws sy'n trafod bywyd a gwaith ei ewythr, Rhys Nicholas.


Oedfa o Fawl yn fyw o gapel Y Tabernacl, Efailisaf yn cynnwys pregeth gan y Parchg Euron Hughes.


Defosiwn yng nghwmni Emlyn Davies a chyflwyniad gan dair o eglwysi'r Undeb: Angor, Grangetown, Tabernacl, Efailisaf a Llanfair Penrhys.


Sesiwn olaf y Cyfarfodydd Blynyddol 2024, gan gynnwys anerchiad y Llywydd, Parchg Jeff Wiliams.

Y Newyddion Diweddaraf

Derbyniwch y newyddion, fideos ac adnoddau diweddaraf.