Lleolir eglwys Annibynnol Pantycrugiau, Plwmp, ym mhlwyf Llangrannog, yn ne-orllewin Ceredigion. Mae’n rhan o ofalaeth y Parchedig Carys Ann, sydd wedi ein gwasanaethu fel eglwys am 30 o flynyddoedd gyda dyfalbarhad, argyhoeddiad a doethineb, trwy amseroedd anodd.
Er mai 35 aelod sydd yn eglwys Pantycrugiau, maent yn gefnogol iawn ac o ddifrif am gadw’r eglwys i fynd. Ceir naws hyfryd ym mhob oedfa, gyda phawb yn gwerthfawrogi’r neges, ac yn mwynhau cwmni ei gilydd. Ceir lluniaeth ar ôl bob oedfa gan eu bod yn y prynhawn. Cysylltir gyda’r aelodau trwy gylchlythyr.
Yn 2023 mae’n 175 o flynyddoedd ers sefydlu’r eglwys Pantycrugiau, ym mhlwyf Llangrannog ac fe gyhoeddir Llyfr y Dathlu. Fel rhan o’r dathlu penderfynwyd cofnodi hanes achos Annibynnol yr ardal yn gyffredinol a sefydliad yr eglwys hon ynddi. Yn y gyfrol cofnododd Lynn Morgan, ysgrifenyddes a thrysorydd yr eglwys, hanes bob math o ddigwyddiadau o fewn yr eglwys lle bu bwrlwm o weithgareddau cerddorol, diwylliannol a chymdeithasol.
Mae’n cydnabod y pregethwyr cynnar a’u cefnogwyr brwdfrydig a fu’n arweinyddion ffydd o fri ac a fu yn barod i gychwyn ac arwain seiadau, yr ysgolion Sul a arweiniodd yn nes ymlaen at sefydlu’r eglwys yn 1848. Dathlwn glod rhai o’n cyndeidiau a phobl yr ardal am eu haberth wrth adeiladu’r capel. Mae’n sôn am weithgareddau di-ri sy’n dyst i waith caled y cenedlaethau a’r gweinidogion a fu, a hefyd ein bugail presennol y Parchedig Carys Ann am ei gwasanaeth gloyw hithau drosom ni am dros 30 o flynyddoedd.
Yn y gyfrol ceir:
- 70 o luniau lliw
- Enwir dros 200 o gartrefi yr ardal.
Mae’r awdur yn olrhain:
- Hanes y dirwedd leol ers yr Oes Efydd 4,500 o flynyddoedd yn ôl
- Cysylltiad gydag abaty Hendy-gwyn ar Daf a’r Arglwydd Rhys yn y 12fed ganrif
- Twf Anghydffurfiaeth a’r eglwysi cynnar
- Effaith ysgolion cylchynol Griffith Jones, Llanddowror
- Cyfraniad Athrofa Neuaddlwyd
- Pwysigrwydd yr ysgolion Sul
- Sefydlu eglwys Pantycrugiau
- Gweithgareddau amrywiol yr eglwys ym Mhantycrugiau.
Dyddiad cyhoeddi: Tachwedd, 2022