Mae’n 185 mlynedd ers cychwyn Horeb Penydarren ...
Eleni yn Horeb Penydarren, rydym ni’n dathlu 185 mlynedd o addoli Cristnogol ar yr un safle. Sefydlwyd yr achos gan y Parchedig Joshua Thomas fel ‘merch’ eglwys i Adulam yng nghanol Merthyr Tudful, cyfarfyddai’r eglwys yn ei ysgol ddydd yntau ym Mhenydarren. O fewn ychydig flynyddoedd prynwyd parsel o dir gydag ochr adeilad yr ysgol a chodwyd y capel cyntaf. Horeb oedd y man addoli cyntaf yng nghymuned Penydarren, oedd yn rhywle oedd ar gynnydd.
Golygodd cau nifer o gapeli ynghyd ag eglwys Sant Ioan yn ystod y degawdau diweddar mai dim ond Horeb heddiw sy’n aros fel yr unig fan o addoliad ym Mhenydarren. Er bod yr eglwys wedi’i lleoli mewn ardal sydd, fwy na heb, yn Saesneg ei hiaith, mae nifer o’n haelodau yn siaradwyr Cymraeg ac mae’r iaith Gymraeg yn chwarae rhan bwysig yn ein gwasanaethau, er bod ein hoedfaon yn digwydd drwy gyfrwng y Saesneg erbyn hyn. Rydym ni’n ffodus fod yna nifer o’n pobl ifanc ni’n mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg ac sydd ond yn rhy falch i gefnogi ein hoedfaon, gan gadw ein traddodiadau iaith Cymraeg yn fyw gan gamu i mewn i’n trydedd ganrif.
Y pedwerydd adeilad yw ein capel presennol, ar ôl i ni golli ein hadeilad prydferth diwethaf ni mewn tân a gynheuwyd yn fwriadol yn 1973. Cwblhawyd y gwaith ailadeiladu yn ystod y 70au a throsglwyddwyd yr allweddi’n swyddogol ym mis Hydref 1975, gan dynnu’r gynulleidfa ynghyd a’i chryfhau. Mae’r cadernid a’r cryfder cymeriad hwnnw’n amlwg yn ein mysg hyd heddiw.
Mae gennym gynulleidfa fywiog a gweithgar sy’n barod i roi tro ar rywbeth newydd bob amser. Mae’r ysgol Sul yn cyfarfod ar yr un adeg â’n gwasanaeth boreol ni ac rydym ni’n croesawu aelodau’r teulu ehangach ar gyfer gwasanaethau teuluol bywiog yn ystod y flwyddyn. Dros y ddegawd aeth heibio tyfodd partneriaeth Gristnogol rhyngom a Penuel Rhymni, ac mae oedfaon ar y cyd a gweithgareddau eraill wedi dod yn boblogaidd. Cynhelir casgliadau wythnosol ar gyfer y banc bwyd, casgliadau cymunedol i Gymorth Cristnogol, a chyfraniadau i ofalwyr ifanc a phlant lleol sydd mewn angen, yn ogystal â chyfraniadau ar gyfer argyfyngau cenedlaethol a byd-eang, ac mae’r gweithgarwch hwn yn dangos maint yr haelioni a fu’n gymaint rhan o’r eglwys hon ers ei chychwyn.
Y mae Horeb yn caru cerddoriaeth a chanu, rhywbeth y mae gweinidogion sy’n ymweld â ni yn sylwi arno’n aml. Datblygodd perthynas agos rhyngom â’r ysgol gynradd leol ac rydym ni’n gwahodd rhieni i fod y rhan o wasanaeth carolau Nadolig ar y cyd â Horeb, ynghyd â’n holl gyfeillion yng Nghôr Dynion Dowlais hefyd.
Rydym ni’n barod bob tro i gofleidio pethau technegol newydd, roeddem ni wedi gosod sgrin a thaflunydd yn y capel cyn y cyfnod clo. Yna, drwy gydol y pandemig, roedd ein hymagwedd tuag at dechnoleg yn golygu fod y rhan fwyaf o’n haelodau yn barod i gael cwrs carlam mewn cyfarfodydd Zoom. Felly, bu modd i ni gadw mewn cysylltiad drwy oedfaon ar-lein, oedfaon teulu ar fideo ac e-newyddlen wythnosol. Byddai cyfeillion ac aelodau o eglwysi eraill yn ymuno â ni’n aml ac rydym ni’n dal i ryfeddu at ba mor effeithiol y bu’r gwasanaetha a’r derbyniad a gawsant. Wrth i Horeb gamu allan o gyfnod y pandemig a symud tuag at ei daucanmlwyddiant gyda hyder newydd mewn defnyddio technoleg i wella ein haddoliad fwy fyth, rydym ni’n meddwl weithiau, beth fyddai barn y Parchedig Joshua Thomas am hyn oll?