Rhoddwyd y tir i’r eglwys er mwyn adeiladu’r capel arno gan Dafydd Thomas, Ysw. Ffynhonnau-gleision, ac ef oedd y diacon cyntaf. Cafodd Fachendre ei enw o’r fferm fu yno gynt.
Dyma hanes byr y gweinidogion. Roedd y Parchg J. M. Davies yn sylfaenydd yr achos yn Fachendre, ac yntau oedd y gweinidog cyntaf. Roedd ganddo ef y gallu i achosi’r gynulleidfa i chwerthin ac wylo yn yr un bregeth, a medrai denu bobl yn naturiol i ymaelodi â’r capel. Bu’r Parchg T. Gwernogle Evans yn barddoni a rhoddodd un o’i gadeiriau i’r capel, sef, cadair eisteddfod Tonypandy a enillodd yn Llungwyn 1922. Bu amser gwan yn y capel tua 1895, ond daeth ysbrydoliaeth newydd gyda dyfodiad Dafi Jenkins a’i deulu yn aelodau.
Yn ystod gweinidogaeth y Parchg T. J. Rees cynyddodd nifer yr aelodau yn sylweddol gyda dyfodiad mwy o Annibynwyr i’r ardal. Yn ystod gweinidogaeth y Parchg R. H. Williams prynwyd tŷ, sef Aneddle, i’r gweinidog yn Boncath, gan eglwysi Ty-rhos a Fachendre. Roedd y ddau gapel yn yr un ofalaeth y pryd hynny. Dyma oedd adeg y Rhyfel Mawr, a bu farw un o bum aelod a oedd yn y fyddin, sef Tom Lewis, Winllan. Y mae cofgolofn iddo ar bwys yr iet.
Bu’r Parchg William Phillips yma am 25 o flynyddoedd, yr arhosiad hiraf o’r gweinidogion oll. Roedd yn fawr ei barch. Mae brith gof gennyf ohono; roeddwn yn blentyn bach ar y pryd. Yn nes ymlaen rwy’n cofio gwraig y Parchg Denzil Protheroe, sef Mrs Protheroe, yn ein dysgu ni blant i gymryd rhan mewn gwasanaeth.
Effeithiwyd ar iechyd y Parchg Irfon Jones yn fawr pan fomiwyd ei gapel yn Lerpwl, adeg yr Ail Ryfel Byd, a bu yntau’n garedig iawn i mi pan gefais i salwch yn 1971. Y Parchg E. J. Davies oedd ein gweinidog cyntaf ar ôl i ni adael Ty-rhos, y fam eglwys, ac ymuno â Phen-y-groes, sydd rhwng Crymych ac Eglwyswrw, ac Antioch yng Nghrymych yn 1973. Ymunodd eglwys Ty-rhos ag eglwysi Hen Gapel a Tabernacl yn Llechryd. Dechreuodd EJ eisteddfod ryng-eglwysig yn yr ofalaeth. Roedd y Parchg Aled ap Gwynedd yn dipyn o arloeswr, yn annog yr aelodau i gymryd gwasanaethau ein hunain, pan oedd ei iechyd yntau’n ffaelu. Mae’r Parchg Islwyn Selby wedi bod yn ffrind da i’r eglwys ers dros ddeugain mlynedd.
Dyma restr o weinidogion y capel hyd heddiw:
Y Parchedigion: J. Mason Davies 1881–95
T. Gwernogle Evans 1895–1905
T. J. Rees 1907–11
R. H. Williams 1914–19
William Phillips 1928–53
Denzil Protheroe 1954–64
Irfon Gwyn Jones BA 1966–71
E. J. Davies 1973–81
Aled ap Gwynedd BD 1983–2003
Islwyn Selby BA 2011–15
(Bu farw Irfon ac Aled yn y tresi.)
Dyma rai ffeithiau eraill: Bu Mrs Gwyneth George, Pentre Terrace, nith i T. E. Nicholas (Niclas y Glais), yn organydd am 50 blynedd yng nghapel Fachendre. Yn 1969, rhoddwyd darn o dir i ehangu’r fynwent gan Mrs R. A. Davies a’i mab, Mr Eric Davies, Hendrewilym. Cafodd y capel adnewyddiad adeg dathliadau’r canmlwyddiant yn 1981.
Nyfed Griffiths, Ysgrifennydd