Ers cychwyn yr achos dros ddau gan mlynedd yn ôl, mae’r eglwys wedi symud gyda’r oes ac eto mae yna rhai o’r hen draddodiadau yn dal mewn bodolaeth ac yn rhan bwysig iawn o galendr yr eglwys o hyd.
Pethau fel y Gymanfa Bwnc, sy’n cael ei chynnal yn flynyddol ar y Sul olaf yn Ebrill, tair oedfa gydag ysgolion Sul Blaen-y-coed, Bryn Iwan a Hermon yn cymryd rhan. Traddodiad arall yw’r Gymanfa Ganu yn yr hydref, gyda chwech o gapeli’r cylch yn uno i gynnal tair oedfa o ganu mawl.
Mae yna bennod gyffrous newydd yn agor o’n blaenau yn ddiweddar. Rydym ni wedi bod chwarter canrif heb weinidog, rydym yn ffodus iawn i groesawi’r Parchedig Gareth Ioan i’n plith fel ein gweinidog. Rydym ni eisoes wedi profi o’i arweinyddiaeth ddoeth a’i gonsyrn fel bugail drosom.
Gyda thros ugain o blant a phobl ifanc yn perthyn i’r eglwys ac yn aelodau ffyddlon o’r ysgol Sul, hyderwn fod y dyfodol agos yn edrych yn un llewyrchus iawn. Ymfalchïwn hefyd bod ysgol Sul yr oedolion wedi ailddechrau eto ers y cyfnod clo. Dydy’r rhif yn ddim i’w gymharu â’r hyn a fu, ond mae yna ddarllen, trafod, esbonio ac ambell i ddadl yn dal i’w chlywed ar y Sul yma. Cedwir y plant yn brysur gyda’r gwahanol weithgareddau: dathlu’r flwyddyn newydd, Gŵyl Ddewi, y Gymanfa Bwnc a’r Gymanfa Ganu, Cwrdd Diolchgarwch a chyflwyniad y Nadolig, sy’n dod â stori’r Geni mewn gwisg wahanol i ni’n flynyddol.
Un traddodiad sydd wedi parhau ers y cychwyn yn 1967 ydy’r weithgaredd o gefnogi elusennau gwahanol drwy fynd o amgylch cartrefi aelodau a ffrindiau’r capel i ganu carolau, Erbyn hyn mae rhai miloedd wedi eu cyfrannu at achosion da, Ymhyfrydwn fod gyda ni wyth o organyddion i’n cynorthwyo yn eu tro yn oedfaon y Sul ynghyd â dwy o ferched ifanc yr ysgol Sul a fu’n cyfeilio yn y Gymanfa Ganu am y tro cyntaf eleni. Mae’n edrych yn addawol iawn i’r dyfodol.
Rydym yn ffodus bod gyda ni dîm da o aelodau sy’n weithgar iawn mewn gwahanol ffyrdd i gadw’r drws ar agor. Awn ymlaen yn hyderus i’r dyfodol ... gyda’n gilydd.