Eglwys Annibynnol Heol Awst, Caerfyrddin
Does dim sicrwydd pryd yn union y sefydlwyd Eglwys Annibynnol Heol Awst, Caerfyrddin. Credir mai tua 1660, neu ychydig wedi hynny y bu hyn. Gwyddys i sicrwydd, fodd bynnag, mai Stephen Hughes, ‘Apostol Sir Gaerfyrddin’, oedd yn gyfrifol am ei sefydlu. Ar y dechrau, bu’r aelodau’n cwrdd mewn tŷ annedd ar Heol y Prior yn y dref, a hynny, mae’n debyg, o dan ofal Stephen Hughes, hyd ei farwolaeth ym 1688. Symudodd yr aelodau ym 1726 pan oedd Thomas Perrott yn weinidog arnynt, i Heol Awst, gan adeiladu’r capel cyntaf, a’i alw yn Tŷ Cwrdd, neu ‘Meeting House’, fel y dangosa plac tu fas i’r capel. Codwyd ail adeilad ym 1802, a’r adeilad presennol ym 1826 a’i agor 4 Ebrill 1827, ac mae’n debyg ei fod yn un o gapeli harddaf yr Annibynwyr.
Dyma eglwys hynaf y dref, a nifer o eglwysi’r cylch, ac mae’r capel ei hun yn bwysig iawn yn hanesyddol ac yn bensaernïol, a daw pobl o dro i dro, i weld yr adeiladau. Ynddi (ar y chwith i’r pulpud) ceir ffenest goffa i Stephen Hughes, yr unig gofeb iddo, ac fe’i dadorchuddiwyd yn ystod Cyfarfodydd Jiwbilî’r Undeb ym 1922. Mae yna ffenestri lliw eraill yn yr adeilad, gan gynnwys un i goffáu Dyfnallt, un o’r cyn-weinidogion; a dwy sy’n dyddio, efallai, o’r adeilad a godwyd ym 1826. Rhestrwyd yr adeilad presennol gan Cadw yn radd 2*.
Disgrifiodd Dyfnallt y pulpud fel ‘witness box’ gan fod person yn mynd mewn iddo o’r cefn, a rhaid cau’r drws cyn dod o hyd i’r sedd. Mae’r pulpud, hefyd, o siâp anghyffredin, ac ar y dechrau roedd dipyn yn uwch nag yw nawr, a’r sêt fawr dipyn yn nes ato. Ar ochr dde’r pulpud gwelir drws a arweiniai, ar un adeg, i’r hen fynwent yn y cefn. Cwpwrdd sydd yno bellach.
Mae rhai o weinidogion blaenllaw Cymru wedi bod yn weinidogion yma, ac yn ystod cyfnod William Evans, ddechrau’r ddeunawfed ganrif, sefydlodd Seminary yn yr adeilad, a ddatblygodd wedyn yn Goleg Presbyteriaid yn y dref. Am gyfnod, gweinidog yr eglwys oedd prifathro’r Academi a leolwyd uwchben yr hyn sydd heddiw yn ysgoldy, ac sydd yn fwy o faint na llawer o gapeli Cymru. Ar y chwith wrth fynd i oriel y capel gwelir drws i’r hen Academi, sydd, bellach, ar glo a’r allwedd wedi hen ddiflannu.
Cynhaliwyd Cyfarfodydd Blynyddol Undeb yr Annibynwyr Cymraeg gyntaf yn Heol Awst ym 1872, o dan gadeiryddiaeth Gwilym Hiraethog. Pan gaeodd y capel lle y bu Gwilym Hiraethog yn weinidog yn Lerpwl am y tro olaf, trosglwyddwyd ei gadair i Heol Awst, ac fe’i defnyddir bob Sul. Bu’r Undeb yma, hefyd, ym 1922, adeg dathlu hanner can mlynedd o’i fodolaeth; a throeon oddi ar hynny hyd eleni (2022) pan gynhelir Oedfa Ddathlu ‘Undeb 150’ yn y capel.
Rhaid cyfaddef bod y cyfnod clo wedi effeithio arnom, a bu’n rhaid cau am amser go faith. Rydym wedi hen ailddechrau oedfaon ar y Sul, ond heb eto ailddechrau’n gweithgareddau eraill i gyd. Bu’n Cymdeithas Ddiwylliadol, a gynhaliwyd gynt yn fisol yn ystod y gaeaf, yn llewyrchus iawn. Roedd y rheiny’n agored i bawb, a braf oedd croesawu pobl nad oeddynt yn aelodau, i ymuno â ni, a chael cyfle i gymdeithasu dros gwpanaid o de ar ddiwedd y cyfarfodydd.
Yn yr un modd deuai plant ac ieuenctid pobl i’r ysgol Sul yn wythnosol. Cymerent ran yn rheolaidd yng ngweithgareddau MIC [Menter Ieuenctid Caerfyrddin (Sir Gaerfyrddin)] a drefnwyd ar gyfer plant ac ieuenctid Sir Gaerfyrddin, ac yn ein hoedfaon teuluol, sydd wedi ailddechrau eto.
Cydweithiwn ag eglwysi eraill o fewn y dref ar gyfer nifer o weithgareddau, ac ar oedfaon, Cymraeg a dwyieithog, yn ogystal â chydaddoli. Oddi ar inni fod heb weinidog, gwnaed trefniant o gydaddoli gydag aelodau eglwys Elim, Ffynnon-ddrain, trefniant llwyddiannus sydd yn parhau yn rheolaidd o wythnos i wythnos.
Casglwn o dro i dro ar gyfer y banc bwyd lleol, ac ar gyfer grwpiau sy’n cynorthwyo pobl mewn angen, gartref a thramor e.e. Cymorth Cristnogol, yn ogystal ag i elusennau lleol. Mae aelodau hefyd yn gwirfoddoli gyda gwahanol elusennau yn y dre, a chyda Phapur Llafar y Deillion a Llyfrau Llafar Cymru.
Rydym yn eglwys Fasnach Deg, ac yn un teulu hapus sy’n cyfarfod yn wythnosol, gyda nifer o’r aelodau yn barod i gymryd rhan yn yr oedfaon pan fo galw. Cynhaliwn amrywiaeth oedfaon, a chroesawn ymwelwyr yn gynnes iawn wrth iddynt droi mewn atom i gydaddoli ein Harglwydd.