Mae Capel Saron yn gapel annibynnol ar y brif ffordd trwy’r Creunant yng Nghwm Dulais: adeiladwyd y lle’n wreiddiol i’w ddefnyddio fel ystafell ysgol. Cynhaliwyd y gwasanaeth cyntaf yno tua 1907. Mae bellach yn eglwys ddwyieithog ac yn gwbl annibynnol.
Hanes yr achos
Yn Ionawr 1908 sefydlwyd yr achos yn swyddogol, dan arweiniad Mr David John Howells yn ysgrifennydd, a Mr William Davies yn drysorydd tra bu gweinidog y fam eglwys, y Parchg Tudwal Davies, hefyd yn gofalu am Saron. Ymrestrodd pedwar a deugain o bobl yn aelodau o eglwys Saron ar y cychwyn, a pharhaodd y Parchg T. T. Davies yn weinidog hyd ei ymddeoliad yn Ebrill 1911. Wedi hynny bu’r eglwys heb weinidog am dros bedair blynedd. Yn ystod yr amser hwn etholwyd Mr D. N. Morgan, Maesygwenith, yn ysgrifennydd yr eglwys, swydd y bu’n gwasanaethu ynddi am bum mlynedd ar hugain.
Yn Awst, 1915, urddwyd y Parchg Urias Phillips yn weinidog ar y ddwy eglwys, Godre’rhos a Saron. Bu’n gweinidogaethu yn y Creunant hyd 2 Ebrill, 1922, pan dderbyniodd alwad i fugeilio eglwys Towyn, Ceinewydd. Syfrdanwyd yr ardal pan gafodd ei daro yn ddisymwth gan afiechyd, a chyn iddo symud i Geinewydd, galwodd y Bugail Mawr ef i wynfyd tragwyddol ar 6 Ebrill, 1922.
Ar 20 Tachwedd, 1932, rhoddwyd galwad i’r Parchg James Evans BA, Rhos, Dinbych. Derbyniodd yr alwad a dechreuodd fel bugail y ddwy eglwys yn Ionawr, 1933. Bu’r bardd a’r llenor adnabyddus hwn yn gwasanaethu am tua deng mlynedd. Bu farw ym mis Mawrth, 1943.
Bu Saron eto heb weinidog am rai blynyddoedd hyd nes y gwnaed galwad yn Awst 1946 at y Parchg Dennis Lloyd Jones, Ebeneser, Treherbert, a derbyniwyd ef yn weinidog ar y ddwy eglwys.
Wynebodd yr eglwys lawer o drafferthion o bryd i’w gilydd, ond efallai mai’r sioc fwyaf oedd y cyfnod rhwng 1938 a 1947 pan gollwyd rhyw naw o ddiaconiaid yr eglwys.
Ni ddihangodd yr eglwys rhag effaith adfydus yr Ail Ryfel Byd, a dangosodd ei chydymdeimlad i deulu Mr a Mrs Lewis, ‘Anwylfan’ drwy osod coflech i’w mab a fu farw yn Salerno, yr Eidal yn 1946.
Gweinidog
Yn 2019, daeth Rhys Locke yn weinidog cyntaf ar Saron mewn 65 mlynedd ar ôl hyfforddi am bum mlynedd gyda Choleg yr Annibynwyr Cymraeg o dan arweiniad y Parchg Euros Wyn Jones. Am 65 mlynedd bu’r eglwys yn dibynnu ar bregethwyr gwadd yn unig. Ysbrydolwyd ei weinidogaeth a’i arddull gan oes o wasanaeth i gapeli Cymraeg a Saesneg yr ardal a chan eglwysi Brasil tra bu ar deithiau yno ar hyd y blynyddoedd fel cenhadwr. Cred Rhys, ynghyd â’r holl eglwys yn Saron, nid yn unig mewn pregethu Newyddion Da Duw, ond mewn bywhau a’i ddangos hefyd: oherwydd dyma esiampl Iesu Grist yr Arglwydd a’r Gwaredwr i ni fel eglwys.
Gweithgareddau
Mae Saron yn eglwys fach brysur, ac y mae’n falch o’i maint, fel yn Luc 12:32, ‘Mae Duw yn caru’r praidd bach.’ Rydym yn cyfarfod bob dydd Sul am 4pm ar gyfer gwasanaeth dwyieithog, yn achlysurol am 10.30am hefyd. Nos Lun mae noson y gymrodoriaeth ac astudiaeth Feiblaidd ynghyd ag amser o weddi, gyda choffi a bisgedi wedyn. Ar ddyddiau Mawrth cyn y Nadolig bydd ein grŵp gwneud cardiau Nadolig digwydd ac rydym hefyd yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau, megis boreau coffi a gwasanaethau awyr agored yn ein tiroedd a’n festri trwy gydol y flwyddyn. Yn ystod gwyliau hanner tymor rydym yn cynnal clwb plant i’r plant lleol ac yn ddiweddar rydym wedi ailddechrau ein clwb plant ar brynhawn Sul sy’n mynd yn dda, diolch i atebion Duw i’n gweddïau. Dros y blynyddoedd diwethaf mae’r capel cyfan wedi’i adnewyddu a’i foderneiddio a gwelwyd cynnydd bychan ond cyson yn yr aelodaeth a’r rhai sy’n mynychu’r capel yn gyffredinol. Mawl a gogoniant i Dduw ein Tad a Thad ein Harglwydd Iesu Grist. Gweddïwn am ei fendithion arnom yn helaeth. Cred arall yr eglwys yw pwysigrwydd ymgysylltu â’r gymuned, yn enwedig trwy weithgareddau estyn allan, fel y gwnaeth Iesu ei hun.