Rhwydwaith Newydd Dros heddwch a Chyfiawnder

Mae mudiadau o bob cwr o Gymru wedi dod ynghyd heddiw i sefydlu Heddwch ar Waith, rhwydwaith ymgyrchu newydd dros Heddwch a chyfiawnder.

Mae Heddwch ar Waith (Peace Action Wales) wedi ei ariannu trwy Ymddiriedolaeth Elusennol Joseph Rowntree gyda’r bwriad o gynyddu y cydweithio rhwng mudiadau heddwch a chyfiawnder er lles pobl a chymunedau Cymru a’r byd.

Mae’r rhwydwaith am i’r mudiadau fod yn ganolog i’r hyn mae Heddwch ar Waith am ei gyflawni, gan arwain ar eu hamcanion.  Yn rhan o’r gwaith bydd Heddwch ar Waith yn mapio hyd a lled militariaeth yng Nghymru, sefydlu dulliau o ddosbarthu a lledu gwybodaeth ar ddidreisedd ac adeiladu rhwydwaith o lobïwyr dros gyfiawnder.

Mae Rhwydwaith Heddwch yr Annibynwyr yn falch o allu ymuno â Heddwch ar Waith.  Meddai Cadeirydd y Rhwydwaith Heddwch, Parchg Guto Prys ap Gwynfor:

''Mae hyn yn gyfle ardderchog i bobl o wahanol gefndiroedd gydweithio â'i gilydd i hyrwyddo'r un weledigaeth.  Unwn â'n gilydd i greu llais cadarn dros heddwch''.

Un o brif amcanion Heddwch ar Waith fydd cyd-weithio gyda Llywodraethau Lleol a Chymru  tuag at y nod o wneud Cymru’n Genedl Heddwch.  Drwy greu cenedl â heddwch wrth ei chalon, mae modd grymuso pobl i newid cyfeiriad ein heconomi, ein cyfundrefn addysg a’n diwylliant tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy a diogel.[RI1] 

Rhun Dafydd o grwp llywio Heddwch Ar Waith sy’n ymhelaethu:

“Mae Heddwch ar Waith yn gyfle euraidd i fudiadau Heddwch a Chyfiawnder i wneud gwir gwahaniaeth i gymunedau yng Nghymru a thu hwnt. Gan weithio yn rhan o’r ymgyrch ryngwladol i weithredu yn wirioneddol dros heddwch mae’r rhwydwaith yno i sefyll dros anghyfiawnder gan wrando ar lais  mudiadau a phobl Cymru”

Gan ychwanegu:

“Bwriad creu rhwydwaith Heddwch ar Waith fydd cynyddu capasiti i ymgyrchu dros heddwch a chyfiawnder a cheisio gwireddu’r dyhead am genedl sy’n rhoi pobl a chymuned o flaen elw a thrachwant pŵer”

Am fwy o wybodaeth neu os hoffwch fod yn rhan o Heddwch ar Waith, cysylltwch a heddwchArWaith@gmail.com

 

 


 

Dolenni Defnyddiol

Erthyglau Perthnasol

Y Newyddion Diweddaraf

Derbyniwch y newyddion, fideos ac adnoddau diweddaraf.