Llinell Amser

1800: Yr Annibynwyr yn cyfarfod yn fferm Penybryn. Cynhaliwyd ysgol Sul yn rheolaidd, ac yn achlysurol deuai myfyrwyr o athrofa Wrecsam i gynnal gwasanaethau.

1813: Addaswyd adeilad ar fferm Penystryd i addoli yno. Deuai Mr Benjamin Evans o Ruthun i bregethu yno’n rheolaidd. Cynyddodd y gynulleidfa ac adeiladwyd capel bach, gyda thŷ ac ystabl ynghlwm wrtho ger croesffordd Penystryd am y gost o £200.

Cymerodd Mr John Griffiths brodor o Dre-lech ofal am yr eglwys ac urddwyd ef yn fuan ar ôl agor y capel. Gan ei fod yn gweithio fel meddyg anifeiliaid, rhoddai ei wasanaeth am ddim.

1817: Oherwydd cynnydd yn yr aelodaeth adeiladwyd capel newydd ar y gost o £400. Gelwid ef yn Pisga.

1840: Cytunodd Samuel Evans, brodor o Benycae, ger Wrecsam, i gymryd gofal bugeiliol o’r gynulleidfa. Cerddai o Benycae, rhyw 11 milltir bob Sul ac weithiau yn ystod yr wythnos hefyd. Cadwai ef a’i wraig siop ym Mhenycae. Rhoddai ei wasanaeth am ddim.

1843: Ordeiniwyd Samuel yn weinidog ar Pisga. Am ddwy flynedd ar hugain parhaodd i gerdded neu farchogaeth yno bob Sul a chanol wythnos, cymerai’r daith bum awr a hanner iddo. Ar y daith byddai’r trigolion yn ei wahodd am baned a gofyn iddo fedyddio eu plant, dywedai iddo fedyddio 2,000 yn ystod ei weinidogaeth.

1871: Gwnaethpwyd tysteb iddo a chafodd y swm o £118. Gorffennodd ei weinidogaeth wedi gwasanaethu am dros ddeugain mlynedd.

1888: Rhoddodd Pisga ynghyd â Nebo Bwlchgwyn alwad i Mr Ben Davies athrofa’r Bala. Ordeiniwyd ef a bu yma oddeutu tair blynedd pan symudodd i Bant-teg, Morgannwg.

1898: Rhoddodd yr eglwys alwad i Mr Tonlas Hughes o goleg Bangor. Yn ystod ei weinidogaeth, yn 1908, adnewyddwyd y capel ar y gost o £600.

1900: Oherwydd y rhyfel gohiriwyd dathlu’r canmlwyddiant hyd 1900 pregethwyd gan y Parchg Vernon Lewis a’r Parchg Elfed Lewis.

1945: Bu’r Parchg O. J. Hughes yn weinidog am ryw bum mlynedd.

1972: Parchg Giraldus Morris o Goedpoeth yn dod yn weinidog am ddwy flynedd.

1976: Uno a Salem Coedpoeth, a Nebo Bwlchgwyn, i roi galwad i’r Parchg P. Bromley Rees o Frynaman. Bu yma tan 1985. Gan ddychwelyd yn rhan amser yn 1990.

Yn ystod y blynyddoedd hyn daeth newid mawr i lawer o bentrefi Cymru. Gwerthwyd nifer o’r ffermydd. Fel canlyniad daeth gostyngiad mawr yn rhif aelodau Pisga a Bethania (Presbyteriaid).

1989: Penderfynwyd uno’r ddwy ysgol Sul, ac yn 1990 penderfynwyd uno’r ddwy gynulleidfa, gan ddefnyddio'r ddau gapel am yn ail.

2005: Gyda chostau’n cynyddu penderfynwyd addoli mewn un capel. Cafwyd pensaer i roi ei farn broffesiynol ar ba gapel y dylid ei gadw. Ei farn oedd y dylid cadw Pisga. Penderfynwyd yn unfrydol i dderbyn ei argymhelliad. Gofynnwyd iddo greu cynllun a fyddai’n gweddnewid Pisga i fod yn gapel ‘newydd’ i bawb gydag enw newydd. Cafwyd pres i wnued hyn o werthu Bethania, arian o ewyllys ac arian ar ôl cau Tabernacl, Graianrhyd. Gwnaethpwyd cytundeb cyfreithiol rhwng y ddau enwad.

Aed ymlaen a’r trefnu, Byddai lle i 100 addoli gydag oriel i’w ddefnyddio fel ystafell ymarfer/cyfarfod gweddi neu fel rhan o’r capel a fuasai yn dal 50. Wrth y fynedfa gosodwyd toiled, cegin a stafell fach i bwyllgora.

2011: Dechreuwyd symud popeth allan o’r capel. Bu’r aelodau yn ddiwyd iawn. Gwerthwyd y seddau a’r llawr pren, cadwyd y pulpud a rhoddwyd olwynion oddi tano er mwyn ei symud fel bo’r angen.

2012: Cychwynnwyd ar y gwaith ym mis Chwefror 2012. Yn y cyfamser roedd yr aelodau yn cyfarfod bob wythnos i addoli yn nhai ei gilydd. Profiad newydd! Daeth popeth at ei gilydd yn wyrthiol. Cafwyd cadeiriau ac organ newydd yn ogystal. Buom yn ffodus o gael y Parchg Trefor Jones Morris i ddod yn weinidog arnom

Heddiw mae aelodau Pisga a Bethania yn cydaddoli’n hapus. Eglwys gydenwadol sy gennym nawr yn cael ei galw yn eglwys Bro Tegla, fe’i defnyddir gan y gymdeithas Gymraeg, a Merched y Wawr o’r pentre. Daeth yn adeilad amlbwrpas.

Bu’n amser anodd yn ystod y pandemig. Ond trwy gyfrwng ffôn a Zoom medrem gydaddoli’n gyson. Bellach rydym yn ôl yn y capel bob Sul am 5pm. Mae rhyw 40 o aelodau yma a tua 50% yn addoli bob Sul. Er nad oes ysgol Sul mae’r plant yn barod i gymryd rhan ar achlysuron arbennig. Os nad oes pregethwr, fe fyddwn yn cynnal cyfarfod gweddi.

Mae llawer tro ar fyd ers adeiladu Pisga, a’r saint a ddechreuodd y gwaith yn sgubor Penystryd wedi ein gadael. Ond erys yn y Pisga newydd rhai o gyffelyb feddwl ac ysbryd i ofalu dros achos Duw yn y fro. Edrychwn ymlaen yn hyderus i’r dyfodol gan weddïo y cawn nerth a gras Duw i fedru ymateb i’w alwad Ef gyda ffydd a brwdfrydedd.

Dolenni Defnyddiol

Y Newyddion Diweddaraf

Derbyniwch y newyddion, fideos ac adnoddau diweddaraf.