Adeiladwyd y Capel Coffa ychydig dros gan mlynedd yn ôl (capel coffa’r Parchedig Cadwaladr Jones) ar safle’r hen gapel gwreiddiol, sef capel Penygarnedd.
Adeiladwyd yr adeilad ‘newydd’ oherwydd nad oedd yr hen adeilad yn addas mwyach ar gyfer cynulleidfa’r Annibynwyr yn y cylch. Ac erbyn heddiw, mae hanes wedi ailadrodd ei hun gan mlynedd yn ddiweddarach. Oherwydd, unwaith eto, doedd yr adeilad ddim yn addas at yr angen; y tro hwn nid oherwydd nad oedd yn ddigon mawr i’r gynulleidfa ond am fod adeilad y Capel Coffa heddiw yn anaddas am ei fod yn rhy gostus i’w gynnal gyda nifer fechan o aelodau.
Ffaith ddiddorol ydi fod yna frawddeg yn y gweithredoedd yn mynegi pe tase’r adeilad yn peidio bod yn addas fod hawl gan yr aelodau newid aelwyd cyn belled â bod yr aelwyd newydd honno o fewn pum milltir i’r hen adeilad.
Deuddeg o aelodau sydd ar y llyfrau erbyn hyn. I griw bach, roedd cynnal a chadw’r adeilad yn anodd, a buasai rhaid edrych ar wario cryn dipyn yn y dyfodol agos i ateb gofynion yr oes. Cred yr aelodau presennol yw ei bod yn rheitiach i ni geisio parhau i gynnal yr achos yn Llanelltyd yn hytrach na cheisio cynnal yr adeilad a phenderfynwyd newid aelwyd yn hytrach na dwyn yr achos i ben. Rhaid ychwanegu nad oedd hyn yn benderfyniad hawdd o bell ffordd, mae llawer iawn o atgofion ynghlwm wrth ein haddoldai ni ac nid ar chware bach mae rhywun yn diystyru’r atgofion hynny. Ond yr ydym yn awr yn barod i greu atgofion newydd.
Felly, ar ddydd Sul 30 Mehefin 2019, caewyd drysau adeilad y Capel Coffa yn Llanelltyd am y tro olaf. Cafwyd gwasanaeth hyfryd wrth ddrws yr hen adeilad yng ngofal y gweinidog, y Parchg Euron Hughes, yng nghwmni aelodau a chyfeillion presennol y capel a chyfeillion Gofalaeth Annibynwyr Dolgellau, Dinas Mawddwy a Llanelltyd. Arweiniwyd y gynulleidfa mewn gweddi ac emyn cyn gorymdeithio gyda’r Beibl i’w gartref newydd.
Mae gwasanaethau’r Capel Coffa yn awr yn digwydd yng nghanolfan y pentref, Llanelltyd. Erbyn hyn, yr ydym yn ffodus o fedru manteisio ar y system band eang sydd yn bodoli yn y ganolfan at ddeunydd y cyhoedd a rhannu’n gwasanaethau gyda chynulleidfaoedd o eglwysi eraill, a medrwn ninnau yn ein tro wrando ar wasanaethau o wahanol ardaloedd.
Yr ydym fel aelodau yn estyn croeso cynnes i unrhyw un sydd yn dymuno troi i mewn atom i’n cartref clyd a chynnes ar yr ail a’r pedwerydd Sul o’r mis am 2 o’r gloch y pnawn.
Gwasanaethir ar yr ail Sul o bob mis gan ein gweinidog, y Parchedig Euron Hughes.