Y capel bach yn y pentre â’r enw mawr.
Fel y capel bach yn y Pentre-uchaf y cyfeirir at Ebeneser (A), Llanfairpwll gan drigolion y pentref. Mae’r adeilad yn dyddio’n ôl i 1805 gyda’r Wesleaid yn addoli yn y capel i ddechrau. Wedi iddynt hwythau symud i gapel newydd yn y pentref daeth Ebeneser yn addoldy i’r Annibynwyr.
Dros y degawdau mae’r capel wedi gweld addasiadau di-rif. Yn negawd olaf y ganrif ddiwethaf codwyd festri newydd sbon ar seiliau’r hen festri bren ac yn 2016 cychwynnwyd y gwaith o weddnewid adeilad y capel. Gyda chyfraniad ariannol o du Cyfundeb Môn, bu’r contractwyr yn brysur am rai misoedd yn gweithio, a ninnau’n cynnal ein gwasanaethau yn y festri drws nesaf. Gyda chymorth nifer o’n haelodau yn peintio, adeiladu dodrefn, gosod offer sain a thaflunio, a glanhau. Llwyddwyd i orffen y gwaith a chynhaliwyd gwasanaeth arbennig i ailagor y capel yn ystod yr haf 2017.
Bellach, nid oes ond dau gapel sy’n dal ar agor yn y pentref, sef Rhos-y-gad (MC) ac Ebeneser. Mae’r ddau gapel yn cydweithio’n hapus ers oddeutu chwarter canrif fel rhan o Ofalaeth Bro Llanfairpwll a bellach mae pump o gapeli yn rhan o’r ofalaeth, er mai Ebeneser yw’r unig gapel sy’n perthyn i’r Annibynwyr. Byddwn yn cydaddoli rhyw deirgwaith bob chwarter a thrwy gydol mis Awst.
Rydym yn hynod ffodus o gael gweinidog ifanc a brwdfrydig yn gofalu am yr ofalaeth sef y Parchedig Dr Alun Morton Thomas. Bydd yn arwain ein defosiwn am 10 y bore bob trydydd Sul yn y mis. Pan gaewyd achos y Wesleaid yn y pentref ychydig flynyddoedd yn ôl, daeth nifer o’r aelodau hynny atom i Ebeneser fel aelodau ac maent wedi bod yn gaffaeliad mawr i’n hachos. Mae’n haelodaeth yn drawstoriad da o enwadau a hynny o bob rhan o Gymru. Fel sawl achos, gostwng mae nifer ein haelodaeth ond bydd canran uchel o’n haelodau’n mynychu’r gwasanaeth yn rheolaidd.
Fe ddaeth cyfnod y Covid a newid sylweddol i’n gwasanaethau ond oherwydd ein bod yn rhan o ofalaeth bro llwyddwyd i gynnal oedfaon cyson dros Zoom. Gorfu i ni hefyd gyfyngu ar weithgareddau cymdeithas y capel yn y cyfnod yma. Roedd cymdeithas fywiog yma ers rhai blynyddoedd gyda chyfarfodydd a chyngherddau llwyddiannus yn cael eu cynnal yn fisol fyddai’n denu aelodau a chyfeillion nad oeddynt yn aelodau. Llwyddwyd i lenwi’r capel sawl gwaith gydag artistiaid lleol o Fôn a thu hwnt yn ein diddanu. Cafwyd nosweithiau cofiadwy yng nghwmni Dylan a Neil, Aelwyd yr Ynys, Hogia Llanbobman a chôr Bro Alaw o ochrau Bae Colwyn. Ein gobaith yw ailgychwyn y gweithgareddau hyn.
Fel eglwys, mae trefniant yn ei le i gyfrannu nwyddau tuag at fanc bwyd yr ynys ac mae’n haelodau’n gwirfoddoli i weithio gyda chynllun Mannau Cynnes sy’n rhoi lloches gynnes, glyd a chroesawgar i unigolion ar fore Gwener yn Rhos-y-gad. Mae’r festri yn adnodd gwerthfawr a defnyddiol i sawl cymdeithas a chôr yn y pentref ac mae ar gael i’w llogi gan unigolion a busnesau am gost resymol iawn.