Yng nghysgod Mynydd y Garth y dewch o hyd i gapel Bethlehem, Gwaelod-y-garth. Bu’n swatio yno ers 1872, a’r achos ei hun yn y pentref, mewn adeilad arall cyfagos, ers 1832.

Mae wedi ei gofrestru fel adeilad Gradd II o fewn ardal gadwraeth pentref Gwaelod-y-garth, a hynny ar y sail ei fod yn enghraifft o gapel a adeiladwyd yn ail hanner y 19eg ganrif, cadwodd yr adeilad y mwyafrif o’i wneuthuriad gwreiddiol y tu fewn a’r tu allan.

Ers ei sefydlu bu’r eglwys yn ffodus ryfeddol yn ei gweinidogion, boed yn llawn-amser neu’n rhan amser, a bendith o’r newydd oedd derbyn Delwyn Siôn yn arweinydd ar y tŷ cwrdd yn 2016.

Ac er ei fod yn swatio yn y tirlun, mae ’na fwrlwm a hwyl ymysg mynychwyr y capel.

Mae’r aelodaeth bresennol, sy’n gyson a chefnogol, yn byw un ai yn y pentref ei hun, neu yn y pentrefi cyfagos neu faestrefi’r brifddinas.

Cofnodir 135 o aelodau a 30 o blant a phobl ifanc yn Tanysgrifiadau a Chyfrifon 2020 Undeb yr Annibynwyr Cymraeg.

Un oedfa a gynhelir ar y Sul, a hynny fel arfer am 10:30am, ac fe fydd ysgol Sul i’r plant oedran cynradd yn cwrdd yr un pryd.

Mae’r plant a’r ieuenctid yn cyflwyno oedfaon arbennig yn ystod y flwyddyn (yn cynnwys Gŵyl Dewi, Cymorth Cristnogol, diolchgarwch) ac mae cryn edrych ymlaen yn flynyddol at eu cyflwyniad Nadolig i weld y dyfeisgarwch sydd ynghlwm a chyflwyno amrywiadau ‘gwahanol’ o Stori’r Geni. (A do, bu rhywrai tebyg i Dr Who, yr Archdderwydd a Dewi Llwyd yn rhan o’r cyflwyniadau diweddaraf!)

Ym mis Mawrth 2020, cyn y cyfnod clo cyntaf, cyflwynodd côr y capel ‘Geiriau Olaf Dewi’ – gwaith cerddorol a gyfansoddwyd gan un o’r aelodau, Eilir Owen Griffiths, a’r gobaith ydi y gellir cyflwyno gwaith tebyg pan fydd yr haint wedi’n gadael.

Mae’r merched yn cynnal cwrdd merched unwaith y mis, a chynhelir grŵp trafod Drws Agored yn fisol.

Mae cefnogaeth i elusennau, lleol a thramor, yn rhan o’r gweithgarwch, ac mae’r aelodau yn gyfrifol am gasgliad blynyddol Cymorth Cristnogol o amgylch y pentref.

Er na lwyddwyd i gynnal y digwyddiadau cymdeithasol arferol yn ddiweddar, oherwydd yr haint, mae Swper Haf a Swper Nadolig yn rhan bwysig o’r ddarpariaeth, ynghyd â chwis, teithiau cerdded neu deithiau beicio noddedig, a nosweithiau cyri neu fwydydd y dwyrain canol.

Mae Bethlehem yn rhan o’r ddarpariaeth sy’n paratoi te i’r digartref yng nghapel y Tabernacl, Yr Ais, Caerdydd, o Sul i Sul.

Hefyd mae Bethlehem, ynghyd â phedair cymdeithas leol arall, yn cyd-drefnu cyfarfodydd Cylch Llenyddol Cadwgan yn flynyddol.

Cyhoeddir rhybudd wythnosol yng ngholofnau’r Western Mail ar y Sadwrn i nodi enw’r cennad a/neu’r hyn fydd yn digwydd yn y capel ar y Sul sy’n dilyn. Cyhoeddir cylchgrawn yr eglwys, Gair Bach Bethlehem, yn rheolaidd yn ystod y flwyddyn hefyd.

Mae’r adeilad wedi ei gofrestru ar gyfer cynnal priodasau ac mae cofrestryddion cydnabyddedig ymysg yr aelodaeth.

 

Am fwy o wybodaeth:

Gweler gwefan y capel: www.bethlehem.cymru

Trydar: @gwebethlehem

Gellir cysylltu â’r ysgrifennydd ar e-bost: rhodrigj@btinternet.com <mailto:rhodrigj@btinternet.com>

Dolenni Defnyddiol

Y Newyddion Diweddaraf

Derbyniwch y newyddion, fideos ac adnoddau diweddaraf.