Dwy eglwys ar wahân i’w gilydd oedd yr Hope a’r Siloh gwreiddiol, ond erbyn dechrau’r unfed ganrif ar hugain penderfynwyd cyfuno, gan ffurfio’r Hope-Siloh newydd yn 2009.
Gwerthwyd adeiladau Siloh, ac adferwyd adeiladau’r Hope, a chychwynnwyd ar gyfnod cyffrous yn ein hanes sy’n parhau hyd heddiw. Ymunodd Hope-Siloh mewn gofalaeth gyda Bethesda, Llangennech, dan arweiniad ein gweinidog, y Parchg Llewelyn Picton Jones.
Mae’r eglwys wedi’i chofrestru gyda’r Comisiwn Elusennau fel Sefydliad Corfforedig Elusennol, ac mae’r adeiladau’n gofrestredig (Gradd II). Mae 165 o aelodau’n perthyn i’r eglwys, gyda 44 o blant ac ieuenctid wedi eu cofrestru. Rydym yn derbyn aelodau newydd yn gyson. Etholir diaconiaid am gyfnod o bedair blynedd ar y tro.
Cynhelir gwasanaeth o addoli bob bore Sul am 9.45. Yn mynychu’r oedfaon amrywiol mae plant ac oedolion, gyda’r plant yn gadael yr oedfa ar ôl eu cyfraniad hwythau i fynd i’r ysgol Sul a gynhelir yn y ddwy festri. Ar nos Sul cynhelir clwb plant a chlwb ieuenctid uwchradd yn y festrïoedd. Bydd ein hieuenctid yn mynychu gwersyll haf Cristnogol yn flynyddol. Cynhelir astudiaeth Feiblaidd cydenwadol bob yn ail brynhawn Mawrth yn ein chwaer eglwys, Bethesda, Llangennech.
Ar fore Mercher mae’r eglwys yn cynnal clwb babanod sy’n agored i blant o dan oed ysgol gyda’u rhieni. Yn achlysurol, bydd Cymdeithas Cyfeillion yr Eglwys yn trefnu cyfarfodydd diwylliannol amrywiol, ac yn fisol ar fore Gwener trefnir bore coffi, sydd eto’n agored i’r gymuned. Rydym yn cyhoeddi cylchgrawn lliwgar o newyddion y capel, dair neu bedair gwaith y flwyddyn, sydd bellach wedi cyrraedd 48 rhifyn.
Gan ddilyn esiampl Crist, mae’r egwyddor o estyn cymorth ymarferol i eraill yn bwysig i ni fel eglwys, ac mae ein hymdrechion o ran cydweithio’n ymestyn o’r gymuned leol i achosion rhyngwladol. Er enghraifft, cesglir at y banc bwyd lleol bob dydd Sul, a chofrestrwyd Hope-Siloh yn Eglwys Fasnach Deg. Ein menter ddiweddaraf yw agor ein festri i’r cyhoedd amser cinio ddwywaith y mis i ddarparu cinio ysgafn a chynnig cwmnïaeth mewn adeilad cynnes. Dan nawdd World Vision noddir plentyn yn flynyddol mewn gwledydd tramor fel Mozambique ac Ethiopia. Ar hyn o bryd rydym yn noddi merch fach chwech oed, Phul Kumari yng ngwlad Nepal. Bob blwyddyn rydym yn cefnogi’r ymgyrch Bocsys Nadolig wedi’i threfnu gan Operation Christmas Child, ac yn cefnogi Cymorth Cristnogol ac elusennau rhyngwladol a lleol eraill yn gyson.
Gydag awydd i ddatblygu ein gwaith ymhellach fel eglwys rydym wedi harneisio potensial y decholeg newydd. Mae ein sgrin gyffwrdd o’r ansawdd uchaf wedi gweddnewid profiadau plant yr ysgol Sul a’r clybiau ieuenctid, ac mae cyfarpar newydd megis sgriniau mawr, camerâu, cyfrifiaduron, gliniaduron ac offer sain soffistigedig wedi’n galluogi i weddnewid ein hoedfaon a’n gweithgareddau amrywiol. O ganlyniad, fe’n galluogwyd i fynd â’n tystiolaeth y tu hwnt i furiau’r capel trwy gyfrwng ein gwefan, YouTube, Facebook a Twitter, a’n basdata o gysylltiadau eang ar gyfer e-bost. Wrth fuddsoddi yn yr offer angenrheidiol rydym yn ddyledus am gefnogaeth Ymddiriedolaeth Pantyfedwen, ac am nawdd sylweddol o’r tu allan i Gymru gan Westhill Endowment, Birmingham.