Hyd at 1835 roedd Annibynwyr yr ardal yn addoli mewn adeilad yn Llanybri, ond sylweddolwyd fod yr aelodaeth yn ormod i’r capel hwnnw erbyn hynny, ac felly gwnaed y penderfyniad gan Annibynwyr yr ardal y dylid sefydlu achos yma yn Llangain ac aed ati i ddechrau adeiladu.
Cafodd yr oedfaon agoriadol eu cynnal ar draws dau ddiwrnod, sef 23 a 24 Chwefror 1835 o dan arweinyddiaeth y Parchg William James. Yn dilyn ei farwolaeth ef sefydlwyd ei nai, y Parchg Thomas Williams o goleg Aberhonddu yn weinidog.
Ym 1865, cafodd yr adeilad ei adnewyddu yn llwyr ac yn 1872 cafodd yr iaith Gymraeg ei chlywed yn y capel am y tro cyntaf yn ystod gweinidogaeth y Parchg T. Lewis, Solfach. Yn 1882 cafodd tu fewn y capel ei adnewyddu ymhellach, gan ychwanegu seddau newydd a galeri, y pris yr adeg hynny oedd £150. Yn 1914 sylweddolwyd fod angen ehangu’r adeilad unwaith eto, a sefydlwyd cronfa i ariannu’r gwaith.
Y sôn yw bod teulu fferm Wauncorgam Fach o’r plwyf wedi gwahodd y Parchg James John, y gweinidog ar y pryd i ddewis unrhyw anifail o’r fferm a’i werthu am y pris uchaf fel eu cyfraniad tuag at yr adeilad newydd. Hefyd, bu John Richards Eithin Cefn, neu Ardwyn fel y gelwir heddiw, y tŷ sydd gyferbyn ag adeilad y capel, ddychwelyd adre o’i waith yn rheolaidd gyda cherrig i baratoi seiliau’r adeilad. Dyma i chi enghraifft o garedigrwydd y gymuned a’u hymroddiad at eu heglwys yr adeg hynny.
Agorwyd yr adeilad presennol ym mis Awst 1915, gosodwyd gwresogydd ac organ bib, sydd yn dal i gael ei defnyddio, er mae wedi cael ei thrydaneiddio ers y 1960au, a system o ddrysau y gellir eu hagor y tu ôl i’r pulpud er mwyn cynyddu maint yr adeilad ymhellach i mewn i’r festri. Y gost yr adeg hynny oedd £2,300.
Ymhlith y pregethwyr gwadd yn yr agoriad swyddogol oedd y Parchedig Elfed Lewis a oedd yr adeg hynny yn weinidog yn y Tabernacl Kings Cross, Llundain. Cynhaliwyd eisteddfodau a chyngherddau yma, gyda’r bwyd yn cael ei baratoi yn llofft y stabl fach wyngalchog ar draws y ffordd, y ceffylau yn cael eu clymu ar y llawr gwaelod, a bwyd lan llofft, pwy ŵyr beth fyddai’r safon hylendid erbyn heddiw gyda threfn fel honno.
Ordeiniwyd pump o feibion Smyrna i’r weinidogaeth: sef y Parchedigion James Charles, Dinbych, cyn gadeirydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg; H. Smyrna Jones, Rhosmeirch a Bodffordd Sir Fôn; T. Twynog Davies, ficer ym mhlwy Mathri, a ordeiniwyd i weinidogaeth yr Annibynnwyr yn Rhydybont Llanybydder; G. Brynmor Thomas, Milo a Phenygroes; a Iona Williams, ac mae’n debyg iddo yntau orffen cyfnod ei weinidogaeth yn Perth Awstralia, roedd pobol Smyrna’n teithio’n bell hyd yn oed yn yr adeg hynny.
Rydym wedi bod yn ddiweinidog ers ymddeoliad y diweddar Barchg J. Towyn Jones, ac yn anffodus nid oes ysgol Sul yn cael ei chynnal yma chwaith, ond mae’r achos yn parhau drwy’r cydweithio a’r defnydd o wahanol ddoniau’r aelodau presennol. Rydym ni’n hynod o browd ohonoch chi gyd!
Rydym yn edrych i’r dyfodol drwy gydaddoli gydag eglwysi cyfagos a bod yn rhan o ofalaeth newydd.
I ddiweddu dyma gerdd am Smyrna a ysgrifennwyd gan y diweddar Nathan Davies, brodor o’r plwyf hwn. Cerdd sydd mor berthnasol heddiw ag yr oedd pan yr ysgrifennwyd hi:
Capel Smyrna Llangain
Gapel hoff, wyt hardd dy olwg,
Addurn penna’r bryn wyt ti,
Mae dy enw’n gysegredig
Ac yn borth y Nef i ni.
Gwyn fu dydd dy adeiladu
i hen seintiau bore oes
a fu’n ffyddlon wasanaethu –
R’hwn a’i fywyd drostynt roes
Eang yw dy fwyn groesawiad,
llydan yw dy borth o hyd,
Ti ddiwellaist lawer enaid
ar ei daith arall fyd.
Brafed yw dy sylfaen heddiw,
peraidd yw dy ddwyfol sain,
aed newyddion dy areithfa
dros randiroedd bras Llangain.
Boed i’r gwlith nefolaidd ddisgyn
megis cynt yn araf ddwys,
tywys eto’r pererinion
i gyd-dynnu’r ddwyfol gwys.
Melys fyddo deddf dy allor
I addolwyr oesau’r byd,
A’th wirionedd fyddo’n llusern –
i lewyrchu ar bob pryd.