Y peth cyntaf sy’n eich taro ynglŷn â Chapel Libanus yw’r olygfa fendigedig.

O’ch blaen fe welwch odidowgrwydd bro Gŵyr ac aber Llwchwr a’r tu ôl fe welwch gadernid y Graig. Yr anfantais yw bod y capel ar gopa tyle Libanus, lle nad oes llawer o le i barcio! 

Cychwynnwyd yr achos yn 1875 ac fe sefydlwyd y capel ar 3 Medi, 1878, ‘er mwyn ateb y galw mawr’ yn yr ardal. Mae’n debyg yn ôl llygad dystion na ‘welwyd cymaint o bobl yn y Pwll ers blynyddoedd nag ar y prynhawn hwn pan osodwyd carreg sylfaen y Tŷ Cwrdd newydd hwn.’ 

Margaretta Thomas, y trysorydd, yn llofnodi siec ar gyfer cronfa Ffynhonnau Byw 

Daeth tro ar fyd ers y cyfnod clo yn 2020 ac erbyn heddiw 57 o aelodau sy’n weddill. O’r rheini, mae cnewyllyn ffyddlon oddeutu pymtheg aelod yn addoli’n rheolaidd ond er bod nifer o’n haelodau ar wasgar maen nhw’n dal i gyfrannu at yr achos. 

Gweinidogion

Dros y blynydoedd buom yn ffodus iawn o’n gweinidogion. Yn eu plith roedd y Parchedigion T. Elfyn Jones, E. Cadfan Phillips, J. M. Gwyn Rhys, D. Gwylfa Evans, Emyr Jones ac Alun Jones. Erbyn hyn, er nad oes gennym fugail rydym yn llwyddo i gynnal un gwasanaeth wythnosol. Os nad oes gweinidog ar gael mae’r aelodau yn ymgymryd â’r gwaith. Er bod nifer o eglwysi annibynnol Cymraeg gweithgar y tu allan i’r dref, erbyn hyn Libanus y Pwll yw’r unig gapel annibynnol Cymraeg yn ardal Llanelli sydd yn cynnal gwasanaeth pob Sul. 

Mae cefnogaeth i elusennau lleol a thramor yn rhan bwysig o’n gweithgarwch ac yn ogystal â’n cefnogaeth wythnosol i fanc bwyd Myrtle House fe gyfrannwyd yn hael tuag at sawl apêl dyngarol yn ystod y flwyddyn. 

Ar hyd y blynyddoedd bu athrawon ymroddgar yn gweithio yn yr ysgol Sul gan gyflwyno gwasanaethau megis ar Sul y Mamau, Gŵyl Ddewi, Diolchgarwch, cyflwyniadau’r Nadolig a mwy. Yn anffodus ers y clo nid oes ysgol Sul wythnosol ond mae nifer fach o blant a phobl ifainc yn dal i gymryd rhan yn ystod gwasanaethau’r aelodau ac ar wyliau arbennig 

Er bod nifer yr aelodau wedi gostwng, costau cynnal a chadw’r adeilad yn cynyddu ac arian y cyfraniadau yn prinhau yn ddirfawr, penderfynwyd yn 2023 bod rhaid gwneud gwelliannau i’n mynwent serth. Tynnwyd yr hen risiau pren pydredig a chodwyd grisiau concrid newydd. Cwblhawyd y gwaith erbyn y Nadolig ac mae dringo’r llwybr serth dipyn yn haws i’r aelodau ac i’r sawl sy’n ymweld â beddau anwyliaid. Buom yn ffodus i dderbyn cymorth ariannol gan Gronfa Degwm, Cyngor Sir Caerfyrddin a fydd yn cyfrannu 20% tuag at y gost. 

Dathlu

Te parti pen-blwydd John Jones yn 90

Yn ystod 2023 bu pedwar o’n haelodau yn dathlu eu pen-blwydd yn 90 oed sef Beti Thomas, Jean Evans, Avril Parry a John Jones. Tro John Jones oedd hi ar 21 Rhagfyr a chynhaliwyd te dathlu iddo wedi oedfa’r Nadolig. Cyflwynwyd anrheg oddi wrth yr aelodau fel arwydd o’n gwerthfawrogiad am ei gyfraniad i’r achos dros y blynyddoedd. Bu’n drysorydd cydwybodol am nifer fawr o flynyddoedd yn ogystal â gofalu am fanc yr ysgol Sul gyda’i wraig Jean.  

Mae tlodi mawr yn ardal Llanelli ac mae’r aelodau yn teimlo ei bod yn bwysig cefnogi gwaith un o’r pum banc bwyd sydd yn y dref sef banc Myrtle House. Diolch arbennig i Elizabeth Thomas am weu a chrosio dwsinau o deganau ac addurniadau Nadolig i’w gwerthu er budd yr achos. Roedd y toreth o anrhegion a brynwyd gyda’r arian yn ychwanegol at ein casgliad bwyd misol arferol. Diolch i Deryth Davies am gydlynu’r cyfan. 

 

Dolenni Defnyddiol

Y Newyddion Diweddaraf

Derbyniwch y newyddion, fideos ac adnoddau diweddaraf.