Ers iddi agor yn 1992, diolch i weledigaeth ac ymroddiad John a Norah Morgans, mae Eglwys Llanfair wedi ymdrechu i fod yn ffyddlon i’r Efengyl drwy wasanaethu cymuned Pen-rhys yn y Rhondda.

Mae gwaith ac addoliad wrth galon bywyd Llanfair. Mae’r eglwys yn perthyn i wyth enwad – yn cynnwys Undeb yr Annibynwyr Cymraeg. Drwy Lanfair rydyn ni’n gwneud ein gorau i fod yn Newyddion Da yn enw Crist ynghanol cymuned ddifreintiedig Pen-rhys.

Ers i ni ailagor yn 2021 ar ôl y cyfnod clo, teimlwn fod Llanfair yn bwysicach nag erioed gyda phobl o bobl oedran yn dod at ei gilydd mewn addoliad tair gwaith yr wythnos ac i gymryd rhan mewn gwahanol weithgareddau. Mae grŵp ffyddlon o blant a phobl ifainc yn dod i’r ysgol Sul ac i’r oedfa ar brynhawn Sul ac wrth eu boddau yn cymryd rhan drwy rannu gweddi a darllen o’r Beibl. Mae’n hyfryd i’w gweld yn tyfu mewn hyder a hunan werth, yn arbennig gan fod sawl un eisoes wedi bod drwy brofiadau anodd.

Mae cysylltiad agos iawn rhwng Llanfair ac ysgol gynradd Pen-rhys. Ers dros 25 o flynyddoedd daw un dosbarth ar y tro atom ar fore Llun ar gyfer oedfa yn y capel, ac yna i gael diod a bisgedi yn y caffi (os nad yw hi’n bwrw glaw yn drwm). Weithiau rydyn ni’n defnyddio ‘Agor y Llyfr’ gan Gymdeithas y Beibl gyda’r plant yn mwynhau actio storïau o’r Beibl.

Prysurdeb

Y gair gorau i ddisgrifio Llanfair yw ‘prysur’! Mae Trivallis, yr awdurdod sy’n gyfrifol am y mwyafrif o’r cartrefi ym Mhen-rhys, wedi disgrifio Llanfair fel ‘hwb gymunedol’. Mae pobl yn dod yma am nifer eang o wahanol resymau e.e. ar gyfer y syrjeri cartrefi, cyngor am arian, y banc bwyd a dillad, heb sôn am y caffi, neu’r clwb gwaith cartref.

Sefydlwyd Banc Bwyd Llanfair yn ystod y cyfnod clo gan ddau o’n gwirfoddolwyr lleol ffyddlon a gweithgar, Neil a Paul allan o’u harian eu hunain, er mwyn cefnogi pobl fregus. Erbyn hyn, rydyn ni’n ddiolchgar dros ben am gefnogaeth unigolion ac eglwysi sy’n cyfrannu rhoddion o fwyd, dodrefn a dillad. Yn ddiweddar, mae nifer o deuluoedd sy’n ddigartref wedi symud i Ben-rhys ac mae wedi bod yn fraint i ni allu eu helpu nhw.

Caffi

Ers dros flwyddyn ar ddydd Gwener neu ddydd Sadwrn mae grŵp ohonom yn mwynhau taith gerdded a sgwrs gyda’n gilydd o gwmpas yr ardal, sy’n llesol i’n hiechyd meddwl a’n hiechyd corfforol.

Mae Caffi’r Dydd (3 diwrnod yr wythnos) a Chaffi’r Nos (2 noswaith yr wythnos) yn boblogaidd iawn. Mae prisiau bwyd yn rhesymol, gyda the a choffi am ddim, ac mae’r awyrgylch yn gyfeillgar a chroesawgar. Yn yr hwyr, daw 40–70 o blant, pobl ifanc ac oedolion ynghyd i fwynhau cwmni ei gilydd a gweithgareddau fel drama, crefft, gemau a gwylio ffilmiau. Ar fore Iau, mae grŵp baban a rhiant ac yna Pilates yn y Lolfa drwy brosiect celfyddydol ‘Tu Hwnt i’r Gofyn’. Ers mis Hydref, mae bore coffi yn y Lolfa ar fore Gwener sy’n rhoi cyfle i bobl ddod i gwrdd mewn lle cynnes a chael te, coffi a thost yn rhad ac am ddim.

Os cewch chi gyfle i ymweld â ni, dewch, fe gewch chi groeso cynnes!

Dolenni Defnyddiol

Y Newyddion Diweddaraf

Derbyniwch y newyddion, fideos ac adnoddau diweddaraf.