Yn wreiddiol, roedd yr ofalaeth yn bedair eglwys. Dilynodd yr ofalaeth yr un llwybr a phob cylch gwledig, oherwydd wedi cyfnod hir o lwyddiant a thwf dechreuodd y dirywiad yn fuan ar ôl yr ail ryfel byd.
Y canlyniad oedd gormod o adeiladau a’r rheini yn llawer rhy fawr ac anaddas ar gyfer anghenion yr oes bresennol. Yr her oedd troi beichiau yn asedau. Yn dilyn cyfnod hir o drafod a chynllunio penderfynwyd cau a gwerthu dau gapel a defnyddio’r cyfalaf i addasu’r ofalaeth i ateb gofynion yr unfed ganrif ar hugain. Felly datblygodd gofalaeth pedair eglwys oedd yn cynnwys Capel Mair ac Elim i fod yn ddau gapel, sef, Bethlehem Newydd a Gibeon.
Bethlehem Newydd
Yn dilyn cyfnod o addoli mewn tai ac amrywiol adeiladau codwyd y capel presennol ym Mhwll-trap yn 1765. Addaswyd yr adeilad hwnnw fwy nag unwaith, roedd yn enfawr ar gyfer pentref gwledig o’r fath ond mae rhai o’r aelodau presennol yn cofio’r adeilad yn llawn a fforymau yn cael eu cludo i mewn ar gyfer achlysuron arbennig fel y gymanfa ganu er mwyn cael mwy o seddau.
Ond nid felly erbyn hyn. Rhaid cyfaddef nad yw Bethlehem wedi dioddef dirywiad mor eithafol ag ambell i gapel gwledig. Ond mae’r gynulleidfa wedi lleihau a heneiddio tra bod y pentref wedi cynyddu ar raddfa eithriadol.
Yr her oedd sicrhau fod y capel yn dychwelyd i fod yn ganolog i fywyd y pentref. Cawsom gymhorthdal gan Undeb yr Annibynwyr i benodi Swyddog Cymunedol. Yn ffodus roedd gennym berson delfrydol ar gyfer y swydd yn yr ofalaeth, sef, Annalyn Davies, ysgrifennydd eglwys Gibeon. Datblygodd hi gysylltiadau gydag eglwysi a mudiadau cyfagos eraill ynghyd ag elusennau oedd angen ac yn haeddu ein cefnogaeth.
Yr hyn oedd yn bwysig ar ddechrau’r ganrif ddiwethaf oedd beth oedd maint yr aelodaeth a nifer y mynychwyr. Y cwestiwn inni yw sut i fod wrth galon y gymuned a gweithredu er budd rhai mewn angen. I’r perwyl hwnnw bwriadwn ddefnyddio’r cyfalaf sydd gennym wrth gefn i addasu’r capel er mwyn ein galluogi i’w ddefnyddio ar gyfer ystod o weithgareddau cymunedol tra ein bod ni’n cadw’r bwriad gwreiddiol i hwyluso ein haddoli yn yr oes bresennol.
Yr ydym ar hyn o bryd yn chwynnu’r llyfrau gan ofyn i rai sydd heb fynychu na chyfrannu, a ydynt am barhau yn aelodau. Nid y cwestiwn perthnasol i’w ofyn y dyddiau hyn yw faint o aelodau sydd gennym ond yn hytrach beth rydym yn ei gyflawni yn enw Iesu. Onid dyna’r cwestiwn gwreiddiol a ofynnodd Iesu ei hunan?
Gibeon
Mae Gibeon yn gapel gwledig traddodiadol wedi ei godi ar fryncyn sy’n gorwedd yn daclus rhwng Sanclêr, Meidrim a Bancyfelin yn Sir Gâr. Codwyd y capel presennol yn 1841 wedi cyfnod o addoli mewn ffermdai. Ni fu unrhyw newid sylweddol yn natur y gymuned. Dim ond un tŷ sydd o fewn pellter cerdded i’r capel er bod ein cyndadau wedi troedio llwybrau llawer pellach yn y dyddiau a fu.
Un o nodweddion Gibeon yw’r ffaith bod un genhedlaeth yn dilyn y llall mewn swyddi o gyfrifoldeb yn yr eglwys. Sefydlwyd David Morgan yn weinidog ar yr eglwys yn 1941 a chodwyd ei fab Myrddin yn ddiacon ac ysgrifennydd yn ddiweddarach, gyda’i ferched ef, Beti-Wyn a Iona, yn gyfrifol bellach am yr ysgol Sul ers blynyddoedd lawer. Yn ogystal â hynny, etholwyd merch David a chwaer Myrddin sef, Meriel yn Llywydd Undeb yr Annibynwyr. Byddai modd dilyn llinach mwy nag un teulu arall yn yr un modd.
Yn 1980 agorwyd adeilad pwrpasol ar gyfer yr ysgol Sul a gweithgareddau cymdeithasol. Gwelwyd cynnydd annisgwyl yn y nifer sy’n mynychu’r oedfaon yn ddiweddar a llwyddwyd i atgyfodi’r ysgol Sul. Bu’r eglwys yn cefnogi ystod eang o elusennau dros y blynyddoedd ac yn cyfrannu at bob math o weithgareddau yn gydenwadol ac yn y Gymraeg. Mae Gibeon felly yn parhau i wasanaethu ei chymuned fel eglwys Gymraeg Anghydffurfiol.
Mae’r ofalaeth yn tystio i’r ffaith fod mwy nag un ffordd inni fod yn ddilynwyr i Iesu yn y Gymru sydd ohoni. Gallwn droedio llwybrau gwahanol – yr hyn sy’n gyffredin yw bod angen eu troedio.