Eglwys gynnes a chroesawgar yw’r un sy’n cyfarfod yng nghapel y Tabernacl, Ffordd Cynan, Porthaethwy.

Sefydlwyd hi ar 21 Ebrill 1867 pan gorffolwyd yr aelodau cyntaf yn eglwys gan neb llai na Gwilym Hiraethog, sef William Rees, Llywydd cyntaf Undeb yr Annibynwyr Cymraeg. Yn y cyfnod hwnnw, yr oedd Porthaethwy yn dal i fwynhau manteision agor y bont newydd dros y Fenai, ac yn tyfu’n gyflym fel tref. 

Er hynny, ni fu eglwys y Tabernacl erioed yn fawr o ran ei rhif. Yn y blynyddoedd cynnar yr oedd ychydig dros 70 yn perthyn iddi, ond yn y blynyddoedd diweddar gwelsom rif yr aelodaeth yn gyson o gwmpas 50. Lle gynt yr oedd ‘diaconiaid’, yn awr y mae ‘Tîm Arweinyddol’ yn bwrw golwg dros weithgarwch yr eglwys, ac wyth o Ymddiriedolwyr yn sicrhau lles yr achos. At hynny, mae pump o blant yn gysylltiedig â’r eglwys, ond gŵyr y cyfarwydd mai codi a gostwng yw hanes niferoedd plant o fewn eglwysi bob amser.

Fel gyda phob cynulleidfa arall, effeithiodd cyfnod pandemig Covid-19 yn fawr iawn arnom. Daeth holl weithgareddau’r eglwys i stop ac, ar wahân i’r addoliad, cymerodd amser i ni gynefino â’n sefyllfa newydd yn dilyn y cyfnod cythryblus hwnnw. Wedi dweud hynny, bu i ni gymryd mantais o’r cyfnod pryd yr oeddem wedi ein gwahardd rhag cyfarfod yn y capel; gosodwyd nenfwd a ffenestri newydd ynddo, a’i beintio. Hyfryd oedd cael dod yn ôl wedyn i adeilad golau a glân.

Ar hyn o bryd, cynhelir oedfa yn y Tabernacl bob yn ail Sul, a hynny am ein bod yn cyd-addoli ag aelodau’r Eglwys Bresbyteraidd leol am yn ail yn Ysgoldy’r Capel Mawr. Bu’r ddwy eglwys yn cydaddoli’n ddedwydd a chytûn ers 2019 a daeth y trefniant i ddefnyddio’r adeiladau bob yn ail yn un parhaol yn 2020.

Cawn gwmni ein gweinidog, y Parchg J. Ron Williams (sydd hefyd yn weinidog Salem, Caernarfon) unwaith y mis. Ym mis Ionawr eleni, bu i ni ddathlu ei fod wedi bod gyda ni’n weinidog am chwarter canrif. Cafwyd oedfa arbennig yn y capel, a gwledd mewn bwyty lleol. Ar y Suliau pa na fo’r gweinidog gyda ni, arweinir yr addoliad gan bregethwyr ac arweinyddion gwadd, a melys yw’r gymdeithas bob amser pan ddown at ein gilydd. 

Yn ddiweddar, bu i ni fabwysiadu’r syniad o ‘Oedfa Agored’, sef oedfa sy’n cael ei harwain gan aelodau ac sy’n agored, os dymunir, i syniadau newydd, dulliau mynegiant newydd, ac i ymwelwyr sydd am ddod atom o’r newydd. Mae’n bosibl y daw oedfa o’r fath yn ddigwyddiad misol maes o law, os mai dyna fydd dymuniad yr aelodau, wrth gwrs.

Oedfa Agored yn ysgoldy’r Capel Mawr

Mae parodrwydd hefyd yn ein plith i gofleidio newid. Yr ydym ar hyn o bryd yn cynllunio ar gyfer y dyfodol, ac yn ymgymryd â’r dasg gan lawn sylweddoli y bydd hynny’n golygu gwneud pethau mewn ffyrdd gwahanol a thrwy ddulliau gwahanol. Ond nid yw dweud hynny’n golygu ein bod yn mynd i golli golwg mewn unrhyw ffordd ar neges fawr yr Efengyl. I’r gwrthwyneb: ein bwriad yw galluogi ein hunain a’n gilydd, dan law Duw, i fod yn well tystion i Iesu Grist a’r Efengyl, ac yn well cenhadon i’n hoes ac yn ein cymuned.

Fel llawer o eglwysi eraill, yr ydym yn weithgar gyda Cymorth Cristnogol, gyda’r banc bwyd a chyda paratoi bocsys anrhegion i blant ar adeg y Nadolig. Yr ydym hefyd wedi penderfynu ar batrwm gweithgarwch newydd i’n Cymdeithas (sy’n cael ei threfnu ar y cyd gyda chyfeillion Capel Mawr), ac wedi ail sefydlu ysgol Sul yr oedolion. At hyn, mae gennym gylchgrawn chwarterol, sef Llais y Tabernacl a’r Capel Mawr, ac ynddo cawn hanes hynt a helynt yr aelodau, darlleniadau o’r ysgrythur, pytiau o ddiddordeb i bawb, newyddion lleol a newyddion y cwrdd chwarter, yr Undeb a Chymdeithas Annibynwyr y Byd.

Eglwys hapus sydd i’w gweld yn y Tabernacl, cymdeithas o bobl Iesu Grist yn cynnal ei gilydd ar eu pererindod ac yn gwasanaethu Duw a phobl y gymuned. Os byddwch byth yn dod i ardal Porthaethwy, cofiwch alw heibio ar fore Sul i gyd-addoli â ni. Gallwn eich sicrhau o un peth – y bydd croeso mawr yn eich disgwyl.

Dolenni Defnyddiol

Y Newyddion Diweddaraf

Derbyniwch y newyddion, fideos ac adnoddau diweddaraf.