Saif capel Horeb allan yn y wlad wrth ymyl y ffordd sy’n arwain o Nantgaredig i Frechfa.
Pan fydd eiddo yn dod ar werth y dyddiau hyn cânt eu prynu gan deuluoedd di-Gymraeg. Felly mae rhif yr aelodaeth wedi gostwng i 23. Ar gyfartaledd tua 7 o aelodau sy’n mynychu’r oedfaon yn gyson.
Adeiladwyd y capel rhwng 1830 a 1832, cyn hynny pregethwyd ar ben carreg yn y cwar gerllaw a gosodwyd y garreg honno yn sylfaen i’r adeilad. Bu’r eglwys o dan ofal y Parchedig T. D. Davies Pant-teg o’i chychwyn hyd 1850. Gweinidogion ar Gapel Isaac gymerodd at ofalu am Horeb am rai blynyddoedd wedyn. Yn 1857, cysylltwyd yr eglwys gyda Gwernogle ac yn 1872 gydag Abergorlech, hefyd dan ofal y Parchedig T. Grenig Jones. Yn 1887, ymunodd Horeb gyda Siloam Pontargothi a chafwyd gweinidogaethu bendithiol y Parchedigion D. Rhagfyr Jones a D. Curwen Davies. Daeth Curwen yn weinidog bro i lawer o bobl o bob enwad. Oherwydd afiechyd, ymddeolodd y Parchedig Curwen Davies yn niwedd 1941. Bu farw fore Sadwrn 13 Hydref 1945 ac yntau’n 75 mlwydd oed. Claddwyd ei weddillion ym mynwent Siloam, pryd yr ymgasglodd torf fawr ynghyd i dalu’r deyrnged olaf iddo.
Myfyriwr o Goleg Aberhonddu gafodd ei urddo nesaf i’r ofalaeth, sef y Parchedig D. Arthur Thomas BA BD. Roedd yn ysgolhaig a phregethwr rhagorol a gellir yn briodol ddweud mai meithrin y diwylliant Cymraeg Cristnogol fu ei nod. Cynhaliai ddosbarthiadau Beiblaidd a hefyd rai ar lenyddiaeth Gymraeg gyfoes. Teimlwyd chwithdod pan hysbysodd y Parchedig Arthur Thomas yr eglwys o’i fwriad i symud i Fynydd Seion, Ponciau yn 1950. Dychwelodd i wasanaeth yn yr eglwys, ar ddydd Sul 27 Medi 1964 i ddathlu un mlynedd ar hugain yn y weinidogaeth ac eto ar 19 Medi 1993 i ddathlu hanner can mlynedd yn y weinidogaeth. Bu farw ym mis Awst 1994.
Estynnwyd galwad i’r Parchedig Dewi Jenkins, Seion Cwmafon yn 1951 a gweinidogaethodd yn ddiwyd a llwyddiannus tan iddo symud i’r Tabernacl, Abergwaun yn 1955.
Dilynwyd ef yn 1956 gan y Parchedig O. C. Jenkins o Nebo, Felindre, Abertawe. Yn nyddiau’r trai crefyddol, ceisiodd annog ei aelodau i gerdded yn hyderus i’r dyfodol gan ddyfnhau eu ffydd a dyblu’u diwydrwydd i hyrwyddo buddiannau Teyrnas Dduw. Bu’n gyfnod o foderneiddio. Yn 1958 adnewyddwyd y capel drwy ei baentio y tu mewn. Yn 1966 derbyniwyd organ at wasanaeth yr eglwys oddi wrth y Gymdeithas Ddiwylliadol. Yn 1967 adeiladwyd cegin newydd fel estyniad i’r llofft bach ac yn 1969 gosodwyd system wresogi trydan yn y capel. Oherwydd afiechyd a’i caethiwodd, ymddeolodd y Parchedig O. C. Jenkins ar 10 Mehefin 1973.
Yn 1982, ehangwyd cylch yr ofalaeth, a dechreuodd pennod newydd yn hanes yr eglwys, pan unodd Siloam a Horeb gydag Ebeneser Abergwili a Phant-teg dan weinidogaeth y Parchedig Emyr Lyn Evans. Gwelwyd trefn newydd ar y gwasanaethau a mwy o ymwneud â’i gilydd rhwng yr eglwysi, mewn oedfaon y Groglith, y Pasg a’r Nadolig.
Ysywaeth, bu’n gyfnod o golli swyddogion ymroddgar. Claddwyd Mr Gruffydd Williams, Graigwen ym mis Ebrill 1989, brawd a lafuriodd yn dawel fel ysgrifennydd yr eglwys am yn agos i ugain mlynedd, ac hefyd ym mis Mawrth 1992 bu farw Mr Rufus Isaac, Frondeg, trysorydd yr eglwys fu mor weithgar a gofalus o holl fuddiannau’r eglwys am ddeugain ac un o flynyddoedd. Cyflwynwyd yr organ bresennol yn rhodd er cof amdano yntau a’r diweddar Miss Alice Fletcher.
Er mwyn medru cynnal gweinidog llawn amser, ehangwyd cylch yr ofalaeth ymhellach i ofalaeth Broydd Myrddin, oedd yn cynnwys chwech eglwys: Horeb, Siloam, Ebeneser, Pant-teg, Peniel a Bwlch-y-corn. Sefydlwyd y Parchedig Emyr Gwyn Evans fel gweinidog ar yr ofalaeth rhwng 2018–23.
Wendy Hughes