Ebeneser yw mam eglwys yr Annibynwyr ym Môn a chynhaliwyd y bererindod flynyddol i Rosmeirch gan eglwysi’r Cyfundeb tan y pandemig.

Mae bron i hanner yr aelodaeth o 70 wedi symud o’r ardal, pobl ifanc yn bennaf, ac oherwydd prinder plant daeth yr ysgol Sul i ben er i ysgol Sul yr oedolion barhau am gyfnod.

Oedfaon

Cynhelir oedfaon bob dydd Sul a chyfarfod gweddi unwaith y mis dan ofal llywyddion y mis. Yn ffodus ni welwyd gostyngiad yn niferoedd yr aelodau yn dilyn y pandemig. 20 yw cyfartaledd presenoldeb y ffyddloniaid. Bu’r eglwys heb weinidog ers 2004 ar ymddeoliad y Parchg Irfon I. Jones ac yn anffodus, hyd yn hyn, ni lwyddwyd i sicrhau gweinidogaeth fro.

Yn ddiweddar ychwanegwyd at nifer yr ymddiriedolwyr, ynghyd â’r swyddogion, y mae bellach 12 ohonynt, ac mae gennym dri o organyddion ffyddlon.

Ffrwyth y Winwydden

Cyhoeddwyd Ffrwyth y Winwydden braslun o hanes Eglwys Ebeneser Rhosmeirch 1748-2015 ddiwedd 2015 gyda nawdd gan Yr Undeb a Chyfundeb Annibynwyr Môn. Codwyd y capel cyntaf yn Rhosmeirch yn 1748 ar ôl treulio pedair blynedd yng Nghaeau Môn, cartref John Owen. Mae cofeb iddo ar wal y fynwent. Ef a William Prichard, a gladdwyd dan lawr yr hen gapel, oedd ymddiriedolwyr cyntaf yr eglwys.

Oherwydd ei chyflwr bu raid ailgodi hanner canllath o wal y fynwent yn ddiweddar gan ddefnyddio’r un cerrig - a dybir y defnyddiwyd i godi’r capel cyntaf - pan godwyd y capel presennol yn 1869.

Cyn y clo arferid cynnal pererindod i leoedd hanesyddol fel Tŷ Mawr Wybrnant, Dolwar Fach, Y Las Ynys, a Soar y Mynydd. Croesawyd aelodau o eglwysi eraill i ymuno â ni, gan gynnwys un tro, teulu o Sefydliad Cymraeg Wisconsin ddaeth i ymweld â’u perthnasau – yn fyw ac yn farw.

Ailgychwynnwyd trefnu paned ar ddiwedd cyfarfod gweddi ac mae’r gyfeillach yn cynyddu, cymaint felly fel y trefnwyd a chynhaliwyd cinio blasus i bawb yn y ganolfan ar ddiwedd un gwasanaeth yn ystod yr haf. Hyderir y bydd hyn yn parhau.

Dolenni Defnyddiol

Y Newyddion Diweddaraf

Derbyniwch y newyddion, fideos ac adnoddau diweddaraf.