Sefydlwyd yr eglwys yn 1900 gan Robert Pritchard, brodor o Frynteg, pentref cyfagos, ac mae’r adeilad wedi’i leoli yng nghanol y pentref.

Adeiladwyd y capel yn y dull Gothig ac ychwanegwyd estyniad i’r adeilad yn y saithdegau, yn cynnwys cegin ac ystafelloedd cyfarfod. Mae’r eglwys wedi ei gofrestru ar gyfer priodasau.

Nid oes gennym weinidog, a’r diwethaf i’n gwasanaethu oedd y diweddar Barchedig Ithel Gibbard a’n gadawodd yn 1999 a bu’n golled enfawr i ni.

Aelodau

Cofnodir 34 o aelodau. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae’r niferoedd wedi gostwng, gyda deuddeg aelod, ar gyfartaledd, yn mynychu oedfa.

Cynhelir gwasanaeth bob yn ail ddydd Sul am 10.30 y bore ac fe drefnir pregethwyr o’r ardal a thu hwnt i’n gwasanaethu. Rydym yn awyddus i barhau’r Achos yn Libanus a gyda chydweithrediad swyddogion, ymddiriedolwyr ac aelodau, mae’r dyfodol yn obeithiol.

Er bod nifer yr aelodau wedi gostwng a chostau rhedeg y capel yn cynyddu, a’r arian sydd ar gael yn prinhau, yn dilyn cais llwyddiannus am gymorth ariannol i Gyfundeb Môn fodd bynnag, bu’n bosib gwneud gwaith atgyweirio sylweddol i’r adeilad.

Fel y bu mewn addoldai trwy Gymru gyfan, bu rhaid cau’r capel ym mis Mawrth 2020 o ganlyniad i’r pandemig, ac fe wnaethom ailagor ym mis Medi 2021. Yn ystod y clo roedd aelodau mewn cysylltiad agos â’i gilydd ar y ffôn a chymerwyd mantais o’r gwasanaethau a ddarlledwyd ar y teledu a radio.

Gweithgaredd

Cefnogir Banc Bwyd Môn, gyda bocs wedi ei leoli yn y capel fel y gall aelodau gyfrannu nwyddau. Rydym hefyd yn gwneud casgliad yn flynyddol ar gyfer y Genhadaeth a Chymorth Cristnogol.

Gwneir defnydd o’r capel gan gymdeithasau lleol o bryd i’w gilydd a bydd yr ysgol gynradd leol yn cynnal eu gwasanaeth Nadolig yn y capel a rhanbarth Môn o Ferched y Wawr yn cynnal eu Gwasanaeth Carolau yma hefyd.

Dolenni Defnyddiol

Y Newyddion Diweddaraf

Derbyniwch y newyddion, fideos ac adnoddau diweddaraf.