Adeiladwyd capel Annibynwyr Nebo am y tro cyntaf ym 1824, ei ailadeiladu ym 1857, a’i ailadeiladu eto ym 1896. Mae Nebo’n dathlu daucanmlwyddiant yn 2024.

Lleolwyd adeilad y capel ym mhentref anarferol a hardd Felindre heb nid nepell o Dreforys a Llangyfelach yn Abertawe. Bu gan y capel hanes hir o dystiolaeth Gristnogol yn y pentref ac mae wedi ei fendithio ers bron i 200 gyda gweinidogaeth nifer o weinidogion nodedig, gyda’r rhai diweddaraf yn y lluniau isod. Mae gan y capel aelodaeth fawr iawn o bron i 100, ond mae wedi dod yn her yn y blynyddoedd diwethaf i ddenu llawer i’r gwasanaethau wythnosol oherwydd ffordd o fyw, amgylchiadau a demograffeg. Fodd bynnag, mae’r eglwys yn cyfarfod bob dydd Sul am 10.30yb lle mae cynulleidfa dda o tua 20 o aelodau a ffrindiau yn ymgynnull i addoli Duw a chlywed Ei air trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae’r capel yn lle hapus i fod ac mae’n gapel sy’n parhau i weithio’n galed i sicrhau parhad yr achos. Bob blwyddyn mae Nebo’n dathlu Dydd Gŵyl Dewi gyda gwasanaeth Cymreig gyda lluniaeth (a phice ar y maen) ar ôl y gwasanaeth. Ym mis Tachwedd, cynhaliodd y capel ddiwrnod agored i bobl o’r gymuned ymweld â nhw er mwyn mwynhau lluniaeth, cyfarfod ag aelodau a ffrindiau a phrynu anrhegion ar gyfer cyfnod y Nadolig. Mae yr holl ymdrechion hyn yn gobeithio dwyn mwy o ffrwyth i Grist a chynydd yn ei eglwys.

Dewch o hyd i’r capel ar Facebook o dan: Nebo, Felindre.

Dolenni Defnyddiol

Y Newyddion Diweddaraf

Derbyniwch y newyddion, fideos ac adnoddau diweddaraf.