Mewn sawl ffordd, rydym yn gymharol ffodus ym Mhendref. Mae gennym weinidog hoffus a gweithgar, a chriw bach o aelodau ffyddlon sy’n hapus i rannu’r baich o gadw’r achos i fynd. Poenwn am y dyfodol, ond nid yn ormodol. Wedi’r cyfan, tra bo dau neu dri …

Â’r aelodaeth yn hŷn bob blwyddyn, a’r cyfartaledd oedran mewn cyfarfod bellach ymhell dros 70. Rhwng pump a deuddeg ar y mwyaf sy’n mynychu oedfaon; felly, y dyddiau yma, yn y festri mae’r cwrdd fel arfer. Er gwaethaf COVID, daeth cyfnod y pandemig â chyfle i gynnal cyrddau ar-lein hefyd. Cwrddwn unwaith pob Sul, naill nai mewn person yn y capel neu ar-lein ar TEAMS. Ffrydir pob gwasanaeth i’r aelodau sy’n methu bod yn bresennol yn y cnawd. Yn ddiweddar, fe brynwyd teclyn bach llun a sain er mwyn gwella ansawdd y darllediad o’r festri.

Ein gweinidog, y Parchg Brian Evans, sy’n gwasanaethu mewn dros hanner yr oedfaon yn flynyddol, a chyrddau aelodau yw’r Suliau sy'n weddill. Mae sawl aelod yn cymryd dwy neu dair oedfa yr un pob blwyddyn, ac mae’n wir yn fendith i glywed eu negeseuon amrywiol. Rydym yn hynod ffodus bod y Parchg Bernant Hughes gennym hefyd yn gyd-aelod, un arall sydd wedi ein gwasanaethu’n ffyddlon am flynyddoedd. Ac felly, nid oes gormod o anhawster llenwi Suliau, er bod peth siarad, a hiraethu, am wahodd gweinidogion o’r tu allan yn ôl atom yn achlysurol.

Fel pob achos, ymfalchïwn yn llwyddiannau ac anturiaethau plant y capel sydd bellach yn eu hugeiniau a’u tridegau; rhai eisoes yn gweithio ar ôl ennill graddau ac ôl-raddau, tra bod eraill yn dal i astudio; mae’r rhan fwyaf ar wasgar drwy Gymru, a dau neu dri dros y ffin. Mae yna gyfle i chi fwynhau ychydig o’n gwasanaeth Nadolig diweddar yma. Yn ogystal, mae yna luniau o’n cinio Nadolig, ac o gwrdd yn y festri ym mis Chwefror 2024.

Mae neges gras, cariad a gwirionedd yr Efengyl cyn bwysiced heddiw ag erioed. Melys yw cofio’n ôl i ddyddiau â’r capel yn ganolbwynt i ddiwylliant a bywyd Cristnogol y gymdeithas leol. Yn anffodus, nid felly y mae hi erbyn hyn. Hiraethwn â gwên, tra’r ydym yn hynod ddiolchgar am yr hyn sy’n dal gennym. Tra bo dau neu dri …

Dolenni Defnyddiol

Y Newyddion Diweddaraf

Derbyniwch y newyddion, fideos ac adnoddau diweddaraf.