Saif capel Seilo, Cefn Coch yn agos i groesffordd ar y ffordd i Lanfairynghornwy yng ngogledd Ynys Môn.

Sefydlwyd y capel drwy ymdrechion dau ŵr lleol. Un ohonynt oedd Gweirydd ap Rhys (Robert John Pryse), a ddisgrifir fel un o lenorion mwyaf gweithgar y 19eg ganrif. Roedd yn eiriadurwr ac yn brif gyfrannwr Y Gwyddoniadur Cymreig. John Roberts ( Ederyn), gŵr busnes lleol a bardd oedd y llall.

Gwyddom i Gweirydd ap Rhys fynychu capel Bethel Hen (MC) yn Llanrhuddlad, am nifer o flynyddoedd, ond dechreuodd aflonyddu yno. Penderfynodd ymuno gyda’r Annibynwyr, a byddai’n cerdded tair milltir i fynd i gapel Ebeneser yn Llanfechell. Yn cerdded gydag ef, byddai John Roberts (Edeyrn), Pandy Cefn Coch. Dechreuodd y ddau drafod y syniad o gael capel Annibynnol mewn man rhwng Cae Crin a Phandy Cefn Coch, iddynt gael arbed cerdded cymaint o bellter bob Dydd Sul

Cytunodd y ddau y byddai darn o dir yng Ngharreg Cam yn leoliad addas i godi’r capel, tir yn perthyn i Stad O. A. P. Meurig, Bodorgan. Gweirydd ap Rhys fu’n gyfrifol am sicrhau caniatâd i gael y tir i’w adeiladu. Talwyd ychydig sylltau'r flwyddyn am brydles o un mlynedd ar hugain. John Roberts (Edeyrn) roddodd y rhan fwyaf o’r arian tuag at adeiladu capel Seilo, ac ef oedd yn cael cadw’r gweithredoedd.

Costiodd y capel £130 i’w adeiladu, gydag Edeyrn yn rhoi £100 a chafwyd y £30 arall trwy roddion. Agorwyd capel Seilo ar 14 Tachwedd 1838. Deg aelod oedd yn y seiat ar y dechrau, ond cynyddodd hynny i hanner cant ymhen chwe mis.

Ceir dogfennau yn nodi cofrestru’r capel yn swyddogol yn 1954; a hynny yn unol â Deddfau 18 ac 19 ‘Lle Cyfarfod ar gyfer Gwasanaethau Crefyddol’, a basiwyd yn ystod teyrnasiad y Frenhines Fictoria. Bu’n rhaid talu 2/6d i Gyngor Sir Fôn i gofrestru’r adeilad. Saesneg yw iaith y dogfennau hyn. Aethpwyd ati i gael trwydded arall yn y flwyddyn 1959, y tro hwn i sicrhau bod y capel yn cael cynnal priodasau. Ynghlwm â’r dystysgrif Saesneg, daeth llythyr Cymraeg yn cydnabod y tro yma. Y pâr cyntaf i briodi yno oedd John Rowlands, Ty’n Cae, Llanfaethlu ac Eirwen Jones, Penyrorsedd, Llanfechell.

Cafwyd gwasanaeth i ddathlu’r 150 yn 1988, gyda nifer o gyn-aelodau yn ymuno gyda’r gynulleidfa. Bu’r eglwys yn ddiweinidog ers 1983, a bu’r ffyddloniaid yn ddiwyd yn sicrhau llenwi gwasanaethau bob Sul, gyda gweinidogion, pregethwyr a chyfarfodydd gweddi. Edrychwyd ar ôl adeilad y capel a’r tŷ capel dros y blynyddoedd, ac mae’r ddau mewn cyflwr da o hyd. Ers y dechrau, mae Seilo wedi bod yn annibynnol ar sawl ystyr ac yng ngwir ystyr y gair, a hynny yn erbyn pob anhawster. Er i’r niferoedd leihau dros y blynyddoedd, mae hynny wedi parhau hyd heddiw, gyda chnewyllyn bychan, ffyddlon yn cadw’r drws ar agor. Ceir gwasanaeth unwaith y mis erbyn hyn.

Dolenni Defnyddiol

Y Newyddion Diweddaraf

Derbyniwch y newyddion, fideos ac adnoddau diweddaraf.