Ddydd Gwener 20 Medi 2024 fe ddechreuodd tân enbyd yng nghanolfan bechgyn Akany Avoko Bevalala (AAB) ym Madagascar.
Mae'r ganolfan yn gartref i 35 o fechgyn bregus rhwng 10-18 oed, sydd wedi eu cartrefu gan Akany Avoko er eu lles, eu haddysg a'u diogelwch.
Yn ystod Apêl Madagascar 2018-2019 fe fu'r Undeb a'i heglwysi yn cefnogi cartref tebyg i hwn sef Akany Avoko Faravohitra, cartref i ferched bregus yn y brifddinas, Antananarivo.
Mae ymchwiliad trylwyr yn parhau i'r hyn a achosodd y tân. Yn ffodus, roedd y bechgyn yn yr ysgol pan ddechreuodd y tân a diolch i staff y ganolfan a'r awdudrdodau lleol a'u hymateb cyflym, fe ddiffodwyd y tân.
v
Serch hynny, mae'r difrod yn eang.
- Dinistrwyd ystafelloedd gwely y bechgyn yn gyfan gwbl, gan gynnwys y to, paneli solar a thrydan.
- Collwyd 15 o welyau a 18 matras.
- Mae 80% o ddillad ac offer ysgol y bechgyn wedi eu dinistrio.
- Mae holl eiddo personol y bechgyn wedi ei ddifetha.
Ymateb Brys
Mae elusen Money for Madagascar angen ein help ar frys i ddarparu:
- Llety diogel dros dro nes bydd yr ystafelloedd cysgu yn cael eu hailadeiladu.
- Dillad ac offer ysgol i sicrhau bod y bechgyn yn parhau â'u haddysg ac yn teimlo elfen o normalrwydd yn ystod yr amser heriol hwn.
Dilynwch y ddolen hon i gyfrannu. Mae pob rhodd yn gwneud gwahaniaeth.