Fe gofiwch, mae’n siŵr, i ni fod yn codi arian ar gyfer pedwar prosiect gwahanol yn ystod Apêl Madagascar.
Un o’r prosiectau hynny oedd cynllun addysg amgylcheddol i ddarpar weinidogion yng Ngholeg diwinyddol Ivato ar Ynys Madagascar. Y syniad oedd bod pob darpar weinidog yn dysgu sut oedd tyfu ffrwythau a llysiau ac yn cael sgiliau garddio ac amaethu cyn mynd allan i’w heglwysi. Roeddent hefyd yn cael eginblanhigion i fynd gyda nhw er mwyn helpu rhannu gwybodaeth a dysgu eu cynulleidfaoedd sut i fyw yn fwy hunangynhaliol.
Aeth peth amser heibio ers iddyn nhw dderbyn yr arian gan Undeb yr Annibynwyr Cymraeg. Dyma ffrwyth eu llafur.
Yr ardd lysiau.
Cnwd ardderchog o foron. Roedd Pastor Juliette yn ymddiheuro nad oedd y llain wedi’i chwynnu’n dda ond roedd y myfyrwyr i ffwrdd dros wyliau’r Pasg