Ymateb Argyfwng Money for Madagascar
Yn ystod misoedd Ionawr a Chwefror 2022 trawodd pedair storm drofannol bwerus ym Madagascar gan wneud dros 100,000 o bobl yn y wlad yn ddigartref. I ddechrau ysgubwyd heolydd, cnydau ac adeiladau i ffwrdd yn llwyr yn y brifddinas ac yn nwyrain y wlad gan ddinistrio bywydau a bywoliaeth yn eu sgil. Yn ail, gwasgwyd tai, ysgolion ac isadeileddau yn llwyr yn rhan ddeheuol yr ynys.
Ymhlith y mannau a drawyd gan yr alanas yr oedd Fferm Cartref Plant Topaza - un o’r prosiectau a gefnogwyd gan Undeb yr Annibynwyr Cymraeg a’n partneriaid Money for Madagascar.
Beth y mae Money for Madagascar yn ei wneud i helpu’r trigolion a drawyd gan y seiclon?
Ymatebodd Money for Madagascar yn syth gyda chronfa adfer o £10,000 o’u harian wrth gefn er mwyn cynorthwyo’r bobl fwyaf bregus yn y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Y mae’r gronfa ymateb chwim hon yn cael ei gweinyddu gan y tîm yn y Swyddfa Malagasi yn y wlad er mwyn sicrhau fod y cymorth priodol yn cyrraedd ein prosiectau a’r cymunedau sy’n derbyn budd heb oedi. Mae cymorth mewn argyfwng yn cynnwys: atgyweirio adeiladau sydd wedi’u dymchwel, bwydo mewn argyfwng, ailblannu cnydau a ddifrodwyd, ailadeiladu meithrinfeydd blanhigion a safleoedd hyfforddiant technegol a grantiau arian mewn argyfwng. Diolch i gyfraniadau’r cyhoedd maent bellach wedi anfon help ychwanegol o £12,000 i gynorthwyo teuluoedd a effeithiwyd i adeiladu eu bywydau.
Cnydau a ddinistriwyd
Yn ystod y seiclonau diweddar, chwalwyd y cnydau ar fferm Topaza. Cefnogodd Money for Madagascar y ganolfan drwy gynnig arian ar gyfer cnydau newydd.
Y mae sefydliad elusennol Mary’s Meals a’r cynnyrch o’r fferm bellach yn darparu mwy na digon o fwyd ar gyfer yr holl blant yn y ganolfan a defnyddir yr arian i wella bywydau’r plant yn y ganolfan e.e. drwy dalu ffioedd ysgol.
donate
Mae Money for Madagascar yn ymrwymedig i helpu’r cymunedau Malagasi i adeiladu a gwella eu gwytnwch. Maent yn cynnig cymorth unionsyth ar adeg o argyfwng ac yn buddsoddi mewn rhaglenni tymor hirach sy’n helpu adeiladu gwytnwch cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.
Bydd eich cyfraniadau’n helpu pobl Madagascar i ailadeiladu eu bywydau a’u bywoliaeth nawr ac i ymdrechu ar gyfer gwell gwytnwch wrth wynebu argyfyngau i’r dyfodol.
Cliciwch yma i gyfrannu yn ddiogel drwy wefan Money for Madagascar.