Clywsom yn ddiweddar fod Money for Madagascar, sef yr elusen sy’n gweinyddu’r arian a godwyd gan Apêl Madagascar Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yn 2018-19, wedi llwyddo i sicrhau nawdd er mwyn darparu ciniawau poeth ar gyfer plant mewn ysgolion ym Madagascar. Bydd y cynllun hwn yn cynnwys plant yng nghartref Topaza a merched yn y lloches Akany Avoko Faravohitra – sef dau o’r pedwar prosiect a gefnogir gan nawdd Apêl Madagascar yr Undeb.
Golyga hyn bydd y plant yn cael pryd cynnes ar gyfer pob dydd ysgol, sy’n ardderchog. Dylai’r prosiect hwn bara am 5 mlynedd o leiaf. Mae hyn yn newyddion cynhyrfus iawn ac i’w groesawu’n fawr, fe gawn ni fwy o fanylion am y cynllun hwn yn y flwyddyn newydd.