Yn ei neges ar gyfer y Pasg mae Llywydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yn dweud bod y gwrthdaro presennol yng ngwlad Iesu gynt yn deillio o gyfnod y Cymro David Lloyd George, y prif weinidog a fu’n flaenllaw yn y broses o sefydlu'r wladwriaeth Iddewig.

Ychwanegodd y Parchedig Jeff Williams y byddai'n cymryd gwyrth debyg i'r Pasg i ddatrys yr elyniaeth bresennol rhwng pobl Palesteina ac Israel. 

‘Wrth i ni edrych mewn arswyd ar wrthdaro’r Pasg hwn yn Gaza, lle’r ymwelais i fi hun ddwywaith o’r blaen, dylem gofio gwers hanes a'r cysylltiad Cymreig. Ganrif yn ôl, bu David Lloyd George yn flaenllaw yn y broses o sicrhau 'cartref cenedlaethol' Iddewig ym Mhalesteina, a reolwyd bryd hynny gan Brydain, heb fawr o ystyriaeth i'r Palestiniaid a oedd yn byw yno.  

‘Yn y blynyddoedd ers hynny, gyrrwyd cannoedd o filoedd o Balestiniaid o'u cartrefi i fod yn ffoaduriaid yn Gaza a'r Llain Orllewinol. O ystyried y gwrthdaro presennol yn benodol, byddai'n cymryd gwyrth i ddatrys yr elyniaeth hir yma.     

‘Ond mae'r Pasg yn ein hatgoffa ni bod gwyrthiau’n medru digwydd. Mae'r Bedd Gwag yn arwydd tragwyddol o'r cariad dwyfol a all oresgyn gwrthdaro a marwolaeth, tor calon ac anobaith, yn ein bywydau personol ac yn y byd. Gweddïwn am y wyrth y Pasg hwn.’ 

(Mae Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yn cynrychioli Cristnogion anghydffurfiol sy'n cwrdd mewn tua 350 o gapeli ledled Cymru) 

Dolenni Defnyddiol

Erthyglau Perthnasol

Y Newyddion Diweddaraf

Derbyniwch y newyddion, fideos ac adnoddau diweddaraf.