Mae arweinwyr Cristnogol, yn cynrychioli eglwysi a chapeli ar draws Cymru, yn ymuno i wahodd pobl i weddïo dros heddwch y Nadolig hwn.
Mae Archesgob Anglicanaidd Cymru, Andrew John, Archesgob Catholig Caerdydd ac Esgob Mynyw, Mark O’Toole a Llywydd Cyngor Eglwysi Rhyddion Cymru, Simon Walkling, yn cyhoeddi neges ar y cyd sy’n cydnabod y tensiynau a’r trychinebau yn y byd ac yn gwahodd pobl i’r eglwys i fyfyrio a gweddïo dros heddwch.
Mae'r newyddion wedi bod yn llawn o'r trychineb ofnadwy sy'n datblygu yn Gaza ar ôl y cyrch terfysgol arswydus ar Israel. Lladdwyd miloedd o blant mewn rhyfel nad oedd o’u dewis. Mae'n sefyllfa wahanol iawn i’r hysbysebion Nadolig yn ein gwlad ni, a'r pwysau sydd arnom i fod yn llawen. Gellir deall pam y mae arweinwyr yr eglwys yn Jerwsalem wedi gwahodd y Cristnogion yno i hepgor unrhyw weithgareddau Nadoligaidd diangen, a sefyll yn gadarn gyda'r rhai sy'n wynebu cystudd. Mae’n ymgais i sefyll o blaid y rhai sy'n parhau i ddioddef, yn union fel y gwnaeth Iesu trwy gael ei eni yn faban ym Methlehem ddwy fil o flynyddoedd yn ôl.
Ganwyd Iesu mewn gwlad a oedd wedi ei meddiannu gan y Rhufeiniaid. Ni chafodd ei eni gartref oherwydd bod cyfrifiad yn cael ei gynnal. Roedd tensiynau teuluol am fod Mair yn feichiog a rhoddwyd Iesu i orwedd mewn preseb am fod y llety yn llawn. Lladdodd Herod y bechgyn ym Methlehem i gael gwared ar y bygythiad i'w rym. Mae'r pethau hyn i gyd yn rhan o'r Nadolig, ynghyd â'n llawenydd am gariad Duw a'r traddodiadau sy'n ein helpu i ddathlu.
Y Nadolig hwn efallai y byddwn yn ymwybodol o densiynau mewn teuluoedd, a'r anawsterau o gael dau ben llinyn ynghyd. Eleni rydyn ni'n cofio'r rhyfeloedd yn y wlad lle ganwyd Iesu, yn Wcráin ac mewn rhannau eraill o'r byd. Rydyn ni’n cofio hefyd ein bod eleni wedi dathlu canmlwyddiant Apêl Heddwch Menywod Cymru, i gofio am y ddeiseb a gyflwynwyd ganddynt i America ynghylch ymuno â Chynghrair y Cenhedloedd i hyrwyddo 'Cyfraith nid Rhyfel'. Llofnodwyd y neges gan tua 60% o fenywod Cymru, ar ôl teithio o gartref i gartref ac o aelwyd i aelwyd, a dangos beth mae pobl gyffredin yn gallu ei gyflawni trwy gydweithio â’i gilydd.
Mae angen heddwch yn ein byd. Hwyrach ein bod am ddianc rhag tensiwn ein teuluoedd. Efallai y carem gael pum munud o lonydd i ni'n hunain wrth baratoi at y Nadolig. Beth am ymweld ag eglwys i gael lle i dawelu a myfyrio, a rhoi amser i weddïo dros heddwch y Nadolig hwn? Rydyn ni'n gweddïo am lawenydd a gobaith i ni i gyd.
Archesgob Caerdydd ac Esgob Mynyw, Mark O'Toole
Archesgob Cymru ac Esgob Bangor, Andrew John
Llywydd Cyngor Eglwysi Rhyddion Cymru, Simon Walkling