#GweddïoDrosWcráin  

Ar ddydd Sul 3 Ebrill 2022, daw eglwysi a Christnogion ar draws y DG ac Iwerddon at ei gilydd mewn weithred o dystiolaeth i weddïo a goleuo canhwyllau dros Wcráin, am ddiwedd i’r gwrthdaro, a thros bawb sydd wedi eu heffeithio gan y rhyfel. Mae Cymorth Cristnogol yn gwahodd eglwysi ar draws Cymru i ymuno yn y foment bwysig hon.

Rydym i gyd wedi gwylio sut y mae’r gwrthdaro wedi datblygu ac wedi gweld y storïau torcalonnus o bobl yn ffoi trais, heb wybod a fyddent yn gweld eu hanwyliaid eto. Mae dros ddwy filiwn wedi ffoi Wcráin. Mae llawer mwy wedi eu gorfodi i adael eu cartrefi i geisio lloches. Mae bywydau wedi eu colli a theuluoedd wedi eu rhwygo. Mae cartrefi wedi eu dinistrio a sawl ffordd wedi eu rhwystro. Does neb yn ddiogel.

Mae eglwysi yn Wcráin, mewn gwledydd cyfagos ac yma yng Nghymru gyda llawer eraill yn y gymuned, wedi ymateb gyda haelioni a lletygarwch er mwyn cefnogi a chroesawu ffoaduriaid.

Rydym i gyd yn rhannu’r teimlad o arswyd a diffyg grym ond y mae pob gweddi, pob gweithred yn dod â gobaith i bobl Wcráin

  • Mae Cymorth Cristnogol wedi paratoi gweddi yr ydym yn eich gwahodd i’w rhannu yn ystod eich act o addoliad ar 3 Ebrill, ac os yn bosibl mewn digwyddiad mwy cyhoeddus gydag eglwysi a’r gymuned letach.
  • Mi fydd digwyddiad yn Lundain yn agos at llysenhadaethau Wcráin a Rwsia yn y prynhawn.
  • A mi fydd ambell ddigwyddiad yng Nghymru, gyda manylion i ddilyn wythnos nesaf.
  • Am fanylion pellach a’r gweddi yn Gymraeg a Saesneg, plîs ewch i: Gweddio dros Wcrain - Cymorth Cristnogol

Gyda’n gilydd fel Cristnogion ar draws yr ynysoedd hyn a chyda’n chwiorydd a’n brodyr yn eglwysi Wcráin, gweddïwn am ddiwedd i’r gwrthdaro ac am heddwch yn ein byd.

 

 

Dolenni Defnyddiol

Erthyglau Perthnasol

Y Newyddion Diweddaraf

Derbyniwch y newyddion, fideos ac adnoddau diweddaraf.