Pleser o’r mwyaf oedd cael cyd gyfarfod wyneb yn wyneb i gael golwg cyntaf ar y gwasanaeth Cymraeg ar gyfer dydd Gwener 3 Mawrth 2023. Gwasanaeth wedi ei lunio’n wreiddiol gan chwiorydd Cristnogol Taiwan ‘Clywais am eich Ffydd’. Dosberthir y pecyn gwybodaeth i’r rhai sydd ar ein rhestr ym mis Hydref. Mae croeso i bawb sydd am drefnu gwasanaeth, a heb fod ar ein rhestr, ofyn am becyn. Rydym yn ffyddiog y bydd popeth ar gael fel arfer yn ein cynadleddau undydd. Bore i baratoi a chael syniadau ar gyfer eich gwasanaethau lleol ym mis Mawrth.
Gogledd: dydd Mawrth 22 Tachwedd (10.00–1.00) Capel y Groes, Wrecsam
De: dydd Mercher 30 Tachwedd (10.30–12.00) festri Heol Awst, Caerfyrddin
Os na fydd yn bosib i chi fod yn un o’r uchod byddem yn gwerthfawrogi eich gweddïau.
Mary Thomas – Ysgrifennydd