Apêl ddiweddaraf Tŷ Croeso, Bethlehem Newydd, Pwlltrap, Sanclêr oedd codi arian ar gyfer Llyfrau Llafar Cymru.
Mae’n costio tua £50,000 i gynnal y gwasanaeth yn flynyddol. Mae nifer o’n haelodau yn dioddef o nam ar eu golwg ac yn ddibynnol ar y ddarpariaeth o’r CDs o lyfrau. Mae nifer hefyd yn gwirfoddoli darllen yn rheolaidd.
Penderfynwyd cynnal Darllenathon er mwyn codi arian. Estynnwyd gwahoddiad i aelodau’r capel, eglwysi a chapeli eraill yr ardal ynghyd â chymdeithasau ac aelodau o’r gymuned i ddod i ddarllen ac fe baratowyd ffurflenni noddi ar gyfer y rhai oedd yn mynd i ddarllen yn ystod y dydd. Darllen o Lyfr y Salmau a’r Efengylau a wnaethpwyd o 10.00 tan 3.30 y prynhawn!
Cyflwyno siec i Rhian Evans, Llyfrau Llafar Cymru, y siaradwraig wadd yn Swper Darllenathon Cymdeithas Tŷ Croeso
Gwahoddwyd pawb i ddod i wrando neu i wirfoddoli gweini te a choffi a phice ar y maen. Daeth aelodau’r capel ac o’r gymuned i wrando, a rhai’n dychwelyd am yr eildro. Cafwyd diwrnod bendithiol iawn a llwyddwyd i godi dros £1500 i Lyfrau Llafar Cymru.
Diolch i bawb am y gefnogaeth a’r holl gyfraniadau hael ddaeth i law.
Annalyn Davies
Swyddog Cymunedol Tŷ Croeso