Roedd y dyddiad wedi’i nodi, dydd Sul, 15 Mawrth, 2020. Y daflen wedi’i pharatoi a’r wledd ar ôl y gwasanaeth wedi’i threfnu. Ond nid fel yna y bu. Fe ddaeth yr hen Covid-19 gan roi stop ar bopeth.
Dathlu 25 (+2)
Ond ddwy flynedd yn ddiweddarach ar ddydd Sul, 25 Medi, 2022, fe gawsom ddathlu. Dathlu 25 mlynedd y Parchedig Llewelyn Picton Jones yn y weinidogaeth – dathlu 27 mlynedd a hanner mewn gwirionedd! Roedd hi’n hyfryd gweld cynulleidfa dda o bob cwr o’r wlad wedi dod i gapel Hope-Siloh, Pontarddulais i ddathlu’r achlysur. Cafwyd gwasanaeth bendithiol a chofiadwy o dan arweiniad Eric Jones, gyda Geraint Williams, organydd Bethesda, Llangennech wrth yr offeryn. Dechreuwyd gyda gair o groeso gan Eric a chyflwynwyd y rhannau arweiniol gan Iwan, Luned, Heledd a Lowri, aelodau o deulu Llew. Yn ystod y gwasanaeth cafwyd eitem gan blant ac ieuenctid eglwys Hope-Siloh a chyflwynwyd cerdyn o’u gwaith nhw i’r gweinidog yn ei longyfarch.
Cyfarchion
Cafwyd cyfle hefyd i dderbyn cyfarchion ar ran eglwysi Cymraeg y cylch, eglwys Tabernacl, Hendygwyn, eglwys Bethel, Llanddewi Efelffre, eglwys Triniti, Llanboidy, eglwys Bethesda, Llangennech ac eglwys Hope-Siloh, Pontarddulais. Wrth ddathlu unrhyw beth, mae’n draddodiad cyflwyno anrhegion i gofio’r achlysur. Mae gofalaeth Bethesda a Hope-Siloh yn freintiedig fod ganddynt aelodau sydd yn feirdd o fri ac felly ar ran Bethesda cyflwynwyd cerdd gan y Parchedig Gerald Jones, ac ar ran Hope-Siloh cyflwynwyd cyfres o englynion gan Harri Williams a cherdd gan Iris Thomas. Cyflwynwyd hefyd rhodd arbennig oddi wrth aelodau yr ofalaeth, sef adnod o ddewis y gweinidog wedi’i argraffu ar arian: ‘Nid oes arnaf gywilydd o’r Efengyl, oherwydd gallu Duw yw hi ar waith er iachawdwriaeth i bob un sy’n credu.’ Darn arbennig gan Mari Thomas. Fel y gwyddoch, tu ôl i bob dyn da, mae yna wraig dda hefyd a chyflwynwyd basged o flodau hyfryd i Marie-Lynne. Mae yng nghapel Hope-Siloh griw o aelodau talentog sydd bob amser yn barod i gyflwyno eitem a chafwyd perfformiad hyfryd ganddynt o ‘Ffydd yn y dyfodol’, y gerddoriaeth gan Eric Jones a’r geiriau gan Iris Thomas. Gwasanaeth cofiadwy iawn y bu’n werth aros dwy flynedd a hanner amdano.
Ar flaen taflen y dathlu nodwyd adnod o ddewis Llew: ‘Yr wyf yn diolch i Grist Iesu ein Harglwydd, yr hwn a’m nerthodd, am iddo fy nghyfrif yn un y gallai ymddiried ynof a’m penodi i’w wasanaeth.’ (1 Timotheus 1:12).
Jennifer Clarke