Brynhawn Sul 24 Ebrill cafwyd oedfa hynod fendithiol yng Nghapel y Nant ar achlysur neilltuo Fiona Gannon yn Arweinydd. Llywyddwyd y cyfarfod yn urddasol gan Dewi Myrddin Hughes ac wedi i’r gynulleidfa luosog ganu emyn Morgan Rhys, Llanfynydd: ‘O agor fy llygaid i weled/Dirgelwch dy arfaeth a'th air’, offrymwyd darlleniad a gweddi gan Robat Powell.
Craidd yr oedfa oedd y neilltuo ei hun, a weinyddwyd gan Dewi ac a oedd yn cynnwys holi Fiona am egwyddorion ei ffydd. Wedi i’r aelodau a chyfeillion eraill godi i gadarnhau derbyn ein harweinydd newydd, offrymwyd gweddi gan Eurig. A Fiona bellach wedi’i hurddo’n Arweinydd, datganwyd unawd deimladwy ‘Gweddi y Pechadur’ o waith Morfydd Llwyn Owen gan Olwen Lintern-Smyth, chwaer Fiona.
Pregeth ac emyn
Pregethwyd yn gynnil a phwrpasol gan Dewi, a gwelir crynodeb o’i neges berthnasol isod. Cafwyd unawd wrth yr allweddellau gan Bill, gŵr Fiona, a ganodd addasiad Cymraeg Fiona o emyn Saesneg Kevin Snyman ‘I Dream of a Church’ wedi’i osod ar alaw werin boblogaidd ‘Streets of Laredo’. Dyma’r addasiad:
Gweddïaf am eglwys sy’n deffro dy fwriad,
Sef pobol sy’n byw heb roi sylw i’r gost;
sy’n byw ar genhadaeth yr Iesu a’i Ysbryd,
I godi’r colledig a Neges y Crist.
Gweddïaf am eglwys sy’n llamu a dawnsio,
Gan afael mewn sêr o’r lân wybren sy’ fry;
Fel proffwydi’r gorffennol yn tywys y bobl,
Heb ofni’r hen Pharo ar orsedd mor hy.
Fe ganwn mewn eglwys sy’n orlawn o chwerthin,
Yn hybu cyfiawnder, a rhannu fel Ti;
Sy’n dymchwel pob menter ariannol anfoesol;
Gan lwyr lawenhau yn dy wir Jiwbilî.
Fe weithiwn dros eglwys sy’n creu cyswllt cariad,
Yn lloches a noddfa i’r gwan ar eu taith;
Yn eglwys sy’n bwrw goleuni i’r t’wyllwch,
Cyn cofleidio’r pechadur a’i dderbyn i’r praidd.
O Arglwydd, gwna ninnau yn bobl fel Iesu,
yn credu mewn Teyrnas o ras sy’n ddi-ffael;
Yn gwmni symudol o bobl ryfeddol,
Yn teithio at lawnder a bywyd di-ail.
Cyfarchion
Derbyniwyd cyfarchion ar ran Cyfundeb Gorllewin Morgannwg oddi wrth y Cadeirydd, y Parchedig Christian Williams, Bethel, Pen-clawdd, a chyfarchion ar ran Undeb yr Annibynwyr Cymraeg gan yr Ysgrifennydd Cyffredinol, y Parchedig Dyfrig Rees. Ymysg y dymuniadau da i Fiona cafwyd gwerthfawrogiad teilwng o gyfnod a chyfraniad Robat Powell fel Arweinydd blaenorol. Derbyniwyd cyfarchion ysgrifenedig oddi wrth y Parchedig Leslie Noon ar ran yr Eglwys Fethodistaidd a Dr Alan Cram ar ran Cytûn yng Nghlydach.
Wedi eitem gerddorol fedrus arall, y tro hwn gan Llywelyn (mab Fiona) a Jonah Eccott, canodd y gynulleidfa eiriau gweddigar George Rees: ‘O Fab y Dyn, Eneiniog Duw, fy Mrawd a’m Ceidwad cry’’. Tynnwyd yr Oedfa i ben drwy fendith wedi’i thraddodi gan Dewi ac yna cafwyd awr ddiddan yn y neuadd dros baned a lluniaeth ysgafn; diolch am bob paratoi fu yno ar ein cyfer. Diolch am oedfa a fydd yn aros yn hir yn y cof ac a fu’n gychwyn teilwng i bennod newydd yn hanes Capel y Nant. Pob bendith i Fiona, ac edrychwn ymlaen i’w chefnogi yn y gwaith.
Crynodeb o’r bregeth
Cododd Dewi Myrddin Hughes destun y bregeth o Efengyl Marc 1:18. ‘Gadawsant eu rhwydau ar unwaith a’i ganlyn ef.’
Pysgotwyr yw Seimon a’i frawd Andreas, a’r brodyr Iago ac loan hefyd. Wrth eu gwaith yn cael pethau yn barod yn eu cychod y maen nhw pan ddaw lesu heibio a’u gwahodd i’w ddilyn.
‘Gadawsant eu rhwydau ar unwaith,’ meddai Marc am Seimon ac Andreas, ac am Iago ac loan meddai, ‘a chan adael eu tad aethant ymaith ar ei ôl ef.’ Dydyn nhw ddim yn gofyn am amser i feddwl, ddim yn gofyn iddo ddod ’nôl fory ar ôl iddyn nhw gael amser i ystyried. Yn y fan a’r lle, heb betruso dim, maen nhw’n mynd gydag e. Mae hi fel ’tase fe’n dweud, ‘Beth ydych chi’n ei wneud fan hyn yn trwsio rhwydau, a bywydau a chalonnau mas fanna angen eu trwsio?’
Dewis?
Faint o ddewis gawson nhw tybed? Fe ddywedodd lesu wrth ei ddisgyblion rywbryd, ‘Nid chi sydd wedi ’newis i; fi sydd wedi eich dewis chi!’ Allen nhw fod wedi gwrthod? Allech chi beidio â bod yn ddisgybl i lesu? Allai Fiona fod wedi gwrthod y gwahoddiad i fod yn Arweinydd? Gallai, ar ryw lefel. Ry’n ni’n delio â dirgelwch fan hyn. Faint o ddewis gawson ni? Mae un peth yn sicr. Pan fyddaf i yn sefyll o flaen fy Ngwaredwr i roi cyfri am fy mywyd, fyddaf i ddim yn gallu dweud: ‘Cofia ’mod i wedi bod yn ddisgybl i ti, ’mod i wedi arddel dy enw di, wedi dweud amdanat drwy ’mywyd.’ Dydw i yn haeddu dim clod am ddilyn Iesu. Gras sy’n gyfrifol am hynny. Wnes i ddim ennill y fraint. Does dim gwobr i mi Wedi cael rhodd yr ydw i. Dim ond diolch yw fy lle. Y fath fraint a roed i ni!
Fiona, ry’n ni’n diolch i Dduw amdanoch, ac yn gweddïo y cewch fendith wrth ei ddilyn e a’n harwain ni. Derbyniwch ein dymuniadau gorau posib.
[Allan o Bwrlwm mis Mai 2022]