Ddydd Sul yr 17eg o Orffennaf mi fydd CWM yn dathlu eu penblwydd yn 45 oed, ac eleni maent wedi creu adnoddau pwrpasol i eglwysi ledled y byd i uno mewn addoliad. Thema'r diwrnod fydd 'Trawma a Dadleoli' a'u bwriad yw tynnu sylw at y realiti trist mewn sawl man yn y byd heddiw. Mae'r rhyfel yn Wcráin, yr anghydfod rhwng Israel a Phalesteina, militariaeth ym Myanmar, y mudo enfawr sydd i'w weld ar y ffin rhwng yr UDA a De America, ansefydlogrwydd yn Haiti a'r mudo parhaus gan filiynau o Affricaniaid i Ewrop yn enghreifftiau yn unig o ddifrifoldeb y thema hon i ni heddiw.
Er mwyn lawrlwytho'r deunydd ar gyfer dydd Sul yr 17eg o Orffennaf, dilynwch y ddolen hon.