Yn wyneb y gwrthdaro presennol ar draws y byd, mae, Cymdeithas y Cymod, yn codi proffil y Pabi Gwyn ymysg Aelodau Seneddol ochr yn ochr â’r Pabi Coch traddodiadol yn ystod digwyddiadau Sul y Cofio eleni.

Mae’r Pabi Gwyn yn symbol o ymrwymiad i heddwch ac mae’n gwasanaethu fel atgof o holl ddioddefwyr rhyfel, gan anrhydeddu’r rhai sydd wedi colli eu bywydau a phwysleisio’r angen dybryd am heddwch hirdymor.

Mae'r Pabi Gwyn wedi'i wisgo ers 1933, a gynhyrchwyd gyntaf gan aelodau o'r Cooperative Women's Guild a oedd wedi dioddef colledion difrifol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Eu bwriad oedd anfon neges glir o "byth eto," gwrthod dathlu rhyfel ac yn lle hynny hyrwyddo heddwch. Yn y byd sydd ohoni, sy’n frith o wrthdaro a dadleoli parhaus, mae Cymdeithas y Cymod yn credu bod neges y Pabi Gwyn yn fwy perthnasol nag erioed.

“Mae Digwyddiadau Cofio nid yn unig yn gyfle i anrhydeddu’r rhai sydd wedi aberthu eu bywydau mewn gwrthdaro yn y gorffennol, ond hefyd yn foment i fyfyrio ar yr angen dybryd am heddwch,” meddai Rob Idris, Cadeirydd Cymdeithas y Cymod. “Trwy wisgo Pabi Gwyn, gall AS ddangos ymrwymiad i chwilio am atebion di-drais i wrthdaro ac i gofio holl ddioddefwyr rhyfel - milwrol a sifil.”

Mae’r gymdeithas heddwch am weld mwy o gynrychiolaeth o’r pabi gwyn ymysg ein cyngorau hefyd. Mae’r Pabi Gwyn eisoes wedi’i ymgorffori yn nigwyddiadau Sul y Cofio mewn cynghorau fel Aberystwyth a Bryste, ac mae Cymdeithas y Cymod yn gobeithio y bydd mwy o gynghorau yn dilyn yr un drefn eleni.. Mae menter Pabi Gwyn y sefydliad yn cael ei chynnal ar y cyd â’r Peace Pledge Union, sy’n cefnogi dosbarthu ac yn helpu i gyfeirio unrhyw elw tuag at waith addysg heddwch.

Mae Cymdeithas y Cymod yn gwahodd i bawb gefnogi’r alwad hon am heddwch drwy gydnabod y Pabi Gwyn a Choch yn nigwyddiadau’r Cofio eleni. Wrth i wrthdaro barhau ledled y byd, byddai'r ystum hwn yn tanlinellu pwysigrwydd anrhydeddu'r rhai sydd wedi cwympo tra hefyd yn hyrwyddo achos heddwch.

Dolenni Defnyddiol

Erthyglau Perthnasol

Y Newyddion Diweddaraf

Derbyniwch y newyddion, fideos ac adnoddau diweddaraf.