Mae Cymdeithas y Cymod, law yn llaw gyda Heddwch ar Waith, yn cynnal digwyddiad ar Fynydd Epynt ar 21 Medi i nodi Diwrnod Heddwch Rhyngwladol er mwyn codi ymwybyddiaeth o hanes Epynt a'r ffaith fod y fyddin yn dal ar dir Mynydd Epynt, 84 mlynedd yn ddiweddarach.
Esboniodd Robat Idris, Cadeirydd Cymdeithas y Cymod:
“Mae'n briodol iawn i ni yng Nghymdeithas y Cymod fynd i'r Epynt ar Ddiwrnod Heddwch Rhyngwladol. Mae'r Epynt yn ardal eang o dir a fu'n eiddo i'r Cymry ers cyn côf. Ym 1940 trowyd dros 219 o bobl a phlant o 54 o aelwydydd gan y Llywodraeth er mwyn creu maes i ymarfer rhyfela. Erys y mynydd-dir hwn yn nwylo'r Weinyddiaeth Amddiffyn i'r un pwrpas hyd y dydd heddiw.”
Mae'r mudiad yn gofyn i bobl ymgynnull erbyn 2.00 ger Canolfan Ymwelwyr Llwybr yr Epynt ar y diwrnod hwn ar gyfer coffâd syml. Ar y diwedd bydd pawb yn ffurfio rhes yn dal baneri a phlacardiau a sefyll yn dawel am 10 munud. Bydd y tawelwch urddasol hwn yn gyferbyniad llwyr i sŵn y gynnau sy'n aml i'w clywed yn yr ardal. Bydd y placardiau yn cael eu gadael wedyn i atgoffa ymwelwyr o hanes yr ardal a sut y collwyd cymuned Gymraeg gyfan er mwyn ymarfer ar gyfer rhyfel.
Ychwanegodd Sam Bannon, Cydlynydd Heddwch ar Waith: “Sefydlwyd Heddwch ar Waith gan Gymdeithas y Cymod a CND Cymru gyda'r nod o weithio mewn partneriaeth gyda sefydliadau heddwch a chyfiawnder blaengar eraill i feithrin rhwydwaith ymgyrchu fyddai'n arwain yn y pendraw at greu Cenedl Heddwch. Sut gallwn gyflawni'r weledigaeth hynny pan fo'r darn hardd hwn o dir dal yn nwylo'r Weinyddiaeth Amddiffyn?”
Llun gan Graham Horn / wikipedia