Ar fore dydd Sadwrn, y 7fed o Hydref, lansiodd Hamas ymosodiadau roced gan arwain at y cynnydd mwyaf mewn trais a welwyd yn yr ardal.
Bu farw miloedd o Israeliaid ac anafwyd llawer mwy. Dyma oedd yr ymosodiad mwyaf marwol ar Israel yn y degawdau diwethaf. Cipiwyd pobl gyffredin, yn blant ac yn fenywod gan yr ymosodwyr.
Yn Gaza, lladdwyd miloedd ac anafwyd llawer. Mae cyrchoedd awyr wedi dinistrio cartrefi, ysgolion, meddygfeydd a chyfleusterau cyfathrebu. Mae ysbytai, oedd dan bwysau mawr yn barod, wedi eu llethu gan gleifion ac mae cannoedd o filoedd o bobl wedi gorfod ffoi.
A ninnau wedi’n syfrdanu gan y galar, y dioddef a’r dychryn sydd wedi meddiannu’r Dwyrain Canol, mae’n siŵr bod ein meddyliau ni i gyd yn troi at y bobl ddiniwed sydd wedi cael eu dal ynghanol y fath gyflafan annynol a brawychus. I’r rhai hynny ohonom sy’n awyddus i gynnig cymorth o ryw fath, mae Apêl Cymorth Cristnogol yn gyfle i wneud cyfraniad ariannol i leddfu peth ar y sefyllfa, ac mae cyfle hefyd i arwyddo deiseb yn galw ar lywodraeth y Deyrnas Unedig i wneud y cyfan a fedr i sicrhau heddwch.
Ceir manylion pellach fan hyn.