Erbyn hyn y mae'r Cenhedloedd Unedig yn datgan fod 100% o bobl Gasa mewn argyfwng bwyd.

Dyma'r tro cyntaf fod poblogaeth gyfan wedi'i dosbarthu o fod yn wynebu newyn, a hyn o ganlyniad i weithredu dynol, nid oherwydd trychineb "naturiol". Mae'r holl diriogaeth yn llai na Sir Gaerfyrddin, ond lladdwyd 33,000 o bobl (yn cynnwys o leiaf 13,000 o blant) ac anafwyd llawer yn fwy.

Mae rhyw dri chwartter y cartrefi wedi eu chwalu,a dros 80% o'r bobl wedi cael eu gorfodi i ffoi - gyda dwy ran o dair o'r holl boblogaeth yn awr wedi eu gwasgu i mewn io'r dref olaf - Rafah - yn disgyl ymosodiad terfynol.. Barnodd y Llys Cyfiawnder Rhyngwladol fod "achos credadwy" o hil-laddiad yn erbyn Israel a gorchmynnodd fod atal ei byddin rhag lladd Palestiniaid ac i hwyluso cymorth.. Ers hynny, mae'r lladd wedi parhau, Cymorth wedi'i rwystro, a bu ymosodiadau arYsbytai, Ysgolion a Chanolfannau Bwyd. Yn waethaf oll y mae casineb chwerw'n cronni ar gyfer cenedlaethau i ddod.

Yn waethaf oll i ni fel Cymry, mae'r cyfan yn digwydd gyda chefnogaeth y rhai sy'n siarad ar ein rhan yn y byd, a chydag arfau a gynhyrchwyd ganddon  ni, ac mae ein tawelwch yn galluogi'r trais i barhau. Beth yw tystiolaeth Cristnogion o Gymry felly ? Dylem ddatgan fod y bywydau oll yn bwysig gan y Duw sy'n eu caru ac a ddangosodd ei gariad ym mherson Iesu ar y ddaear. Dylem gyhoeddi efengyl edifarhau, cymod ac ail gyfle. Yr allwedd i'r cyfan yw edifarhau am ein rhan ni yn y drychineb tra'n cyd-deimlo profiadau a dioddefaint eraill.

Dylem gyd-deimlo poen torfol yng nghof cenedl Iddewon am yr erlid a'r gwersylloed angau y bu eu pobl ynddynt, a chyd-deimlo eu hawydd am gartre diogel a'u dychryn ar Hydref 7ed. Dylem gyd-deimlo poen, dioddefaint ac anobaith y Palestiniaid a brofodd trauma golli eu tir yn y Nakba 1948, sy wedi byw mewn tlodi a chaethiwed am ddegawdau ers hynny tra anghofiodd y byd amdanynt wrth ymgyfoethogi, ac a drawodd allan yn wyllt ar Hedraf 7ed. Ond yn bennaf oll, dylem edifarhau am yr hyn a wnaeth, a'r hyn na wnaeth, y wladwriaeth sy'n siarad ar ein rhan yn y byd - Y Deyrnas Gyfunol. Ers degawdau rydym wedi gwerthu arfau i Israel, rydyn ni wedi anwybyddu dioddefaint y Palestiniaid, a rhoddodd ein "harweinwyr" gefnogaeth ddiplomyddol i Israel gyflawni'r gyflafan.

Trwy air a phob gweithred, dylwm gydanabod ein bai ac edifarhau, gan annog eraill i wneud yr un fath. Dylem gyfrannu iawndal at y rhai sy'n dioddef fel unigolion ac fel gwladwriaeth. Dylem fynnu - trwy negeseuon cyson at arweinwyr a thrwy fynychu digwyddiadau heddwch - fod atal pob cefnogaeth i drais, bod mynnu fod pob dull o hwyluso cymorth brys at bobl Gasa, a bod cychwyn trafodaethau heddwch yn seiliedig ar gydnabod methiannau'r gorffennol.

Mae Coda ni wedi trefnu apel ar gyfer cymorth brys o GYmru ( ar agor tan ddiwedd Ebill - https://www.justgiving.com/page/coda-ni ) ac hefyd Gyngerdd Heddwch gyda Chapel Bethesda Yr Wyddgrug i geisio cymod. Bydd Dafydd Iwan yn perfformio gyda Garth Hewitt - sydd yn "Canon Anrhydeddus Eglwys San Sior Jerwsalem" mewn cydnabyddiaeth o'i genhadaeth oes dros y Palestiniaid. Mae Garth hefyd wedi canu o flaen miloedd mewn gwyliau mawr a chyfeithiwyd nifer o gytganau ei anthemau i'r Gymraeg. Mae'r tocynnau ar werth am y gyngerdd 6pm Nos Sul 14/4 gan Siop y Siswrn Yr Wyddgrug neu arlein o WWW.TINYURL.COM/GAZACONCERT 

Dolenni Defnyddiol

Erthyglau Perthnasol

Y Newyddion Diweddaraf

Derbyniwch y newyddion, fideos ac adnoddau diweddaraf.